S4C i ddatblygu sianel ddigidol newydd ymhen 18 mis
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr S4C wedi dweud y bydd y sianel yn datblygu sianel ddigidol newydd yn y 18 mis nesaf.
Dywedodd Owen Evans wrth Aelodau Cynulliad fod angen i S4C "newid", ac y byddai'r sianel newydd yn debyg i BBC Three.
Mae Mr Evans, sydd wedi bod yn arwain y sianel ers mis Hydref, yn dweud fod S4C yn dysgu mwy bob dydd am y ffordd mae pobl yn gwylio eu cynnwys.
"Un o'r pethau rydym yn edrych i ddatblygu ydy sianel ddigidol, a hynny yn ystod yr 18 mis nesa'," meddai.
"Beth mae hynny'n golygu? Sut fydd yn edrych? Fe fyddwn yn cyfeirio at BBC Three ar gyfer enghreifftiau."
Mae disgwyl i adolygiad o waith S4C, sydd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU, gael ei gyhoeddi cyn y Nadolig.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, wrth aelodau o'r pwyllgor diwylliant fod ariannu yn "ffactor hollbwysig" i S4C.
Fe fydd S4C yn symud i bencadlys newydd yng Nghaerfyrddin yn 2018.
Fe gadarnhaodd Huw Jones fod disgwyl i Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, sy'n gyfrifol am ddatblygu'r Egin, dderbyn £3m o fenthyciad ar gyfer cwblhau'r gwaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2017
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017