'Gobeithio y bydd Yr Egin yn 60% llawn erbyn agor'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwilym Dyfri Jones: "Ceisio denu defnyddwyr amrywiol" i'r Egin

Mae un o uwch-swyddogion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gobeithio y bydd hyd at 60% o adeilad Yr Egin wedi ei lenwi pan fydd drysau'r ganolfan newydd yn agor ym mis Medi.

Erbyn hyn mae ffenestri yn cael eu gosod yn yr adeilad ar gampws y brifysgol yng Nghaerfyrddin, ac fe fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn yr haf.

Mae £6m o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar godi adeilad fydd yn cynnwys pencadlys newydd S4C, ond mae'r cynllun wedi bod yn un dadleuol ar adegau.

Mae S4C yn bwriadu adleoli rhwng 50 a 55 o swyddi i'r ganolfan newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffenestri yn cael eu gosod yn yr adeilad ar hyn o bryd

Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn yr haf

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gobeithio y bydd Yr Egin yn creu rhyw 100 o swyddi newydd yn y diwydianau creadigol.

Doedd y brifysgol ddim yn barod i gadarnhau faint o denantiaid sydd wedi ymrwymo i symud i'r Egin, ond mae yna addewid am gyhoeddiad "yn y flwyddyn newydd".

Yn ôl y Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol, Gwilym Dyfri Jones, dyw'r brifysgol "ddim mewn sefyllfa i rannu gwybodaeth am ei bod yn parhau mewn trafodaethau manwl a chyfreithiol" gyda nifer o gwmnïau a sefydliadau.

Yn ôl Mr Jones mae'r datblygiad wedi cyfrannu rhyw £4m tuag at economi Cymru, ac fe fydd mwy na 20 o gwmnïau adeiladu wedi bod yn gweithio ar y safle yng Nghaerfyrddin.