Virgin: Streic yn amharu ar drenau yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i deithwyr ar drenau cwmni Virgin Trains yng ngogledd Cymru wynebu trafferthion ddydd Gwener oherwydd anghydfod rhwng staff undebau'r RMT a TSSA a'r cwmni.
Bydd y gweithwyr yn cymryd rhan yn y cyntaf o gyfres o streiciau fydd yn para tan y flwyddyn newydd.
Mae Virgin wedi dweud y bydd mwyafrif y trenau yn Lloegr yn rhedeg, ond maen nhw'n disgwyl y bydd mwyafrif trenau'r cwmni rhwng Caergybi a Llundain (Euston) yn cael eu canslo.
Fe fydd un gwasanaeth yn rhedeg, sef y trên o Gaergybi am 04:48 i Lundain ac yn dychwelyd o Euston am 17:10.
Cyfnewid tocynnau
Dywedodd Virgin y bydd gwasanaeth bysiau rhwng Caer a Crewe er mwyn i deithwyr ar drenau eraill o'r gogledd gysylltu gyda gwasanaethau eraill o Crewe i Lundain a llefydd eraill.
Mae'r cwmni hefyd wedi trefnu y bydd cwmni Trenau Arriva Cymru yn derbyn tocynnau Virgin rhwng Caer a gorsafoedd gogledd Cymru.
Fe fydd tocynnau Virgin ar gyfer dydd Gwener yn ddilys i'w defnyddio y diwrnod cyn neu ddiwrnod ar ôl y streic, neu fe all cwsmeriaid wneud cais am ad-daliad llawn.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru y byddan nhw'n darparu un gwasanaeth ychwanegol rhwng Caer a Chaergybi, a hefyd yn gosod cerbydau ychwanegol ar drenau eraill.
Mae'r anghydfod yn ymwneud â staff fel rheolwyr trenau, staff arlwyo a staff clerigol mewn gorsafoedd.
Mae tua 1,800 o'r staff yna am gael cynnig codiad cyflog sy'n gyfartal â chynnig a gafodd gyrwyr trenau.
'Achosi tramgwydd'
Dywedodd arweinydd undeb yr RMT, Mick Cash: "Y cyfan y mae ein haelodau am gael yw cynnig priodol sy'n gyfartal â'r un sy'n cael ei roi i yrwyr... cynnig sydd yn gwneud iawn am leihau eu horiau wythnosol sylfaenol."
Ond yn ôl Rheolwr Virgin Trains, Phil Whittingham mae arweinwyr yr RMT a'r TSSA "yn ceisio achosi tramgwydd ar adeg pan fydd llawer am deithio ar y trên i fod gyda'u hanwyliaid.
"Rydym wedi edrych ar godiad hael o 3.6%, ond mae arweiniwyd yr undebau'n mynnu cael 4%, sef dwywaith y 2% sy'n gyfartaledd ar draws y DU eleni.
"Fe fyddwn yn ceisio cadw mwyafrif ein trenau i redeg. Rydym yn dal yn agored i gynnal trafodaethau gyda'r RMT a'r TSSA ac yn eu hannog i atal y streiciau yma."