Llywodraeth Cymru yn 'diystyru'r Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
dyfrig siencyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Arweinydd Cyngor Gwynedd ers mis Mai eleni

Mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r iaith Gymraeg ym maes cynllunio tai, yn ôl aelod blaenllaw o Blaid Cymru.

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, mae Nodyn Cyngor Technegol 20 (NCT neu TAN20) yn wan a heb ddannedd, gyda chanllawiau i gynllunwyr wrth geisio dehongli deddfwriaeth ar geisiadau cynllunio a'u heffaith ar yr iaith yn aneglur dros ben.

Dywedodd Mr Siencyn: "Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd sylw o'r sylwadau wnaeth Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn, wrth i ni ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar Nodyn Cyngor Technegol 20: yr iaith Gymraeg, wrth gynllunio tai.

"Mae'n eironig, a dweud y lleiaf, bod Llywodraeth Cymru'n anwybyddu barn aelodau etholedig sy'n cynrychioli trwch y boblogaeth ar lawr gwlad.

"Yn fwy rhyfedd fyth, mae'r Llywodraeth yn anwybyddu barn un o'r cynghorau sy'n gweithio yn ardaloedd Cymreiciaf Cymru, ardaloedd lle mae'r Gymraeg ar ei chryfaf ac sydd felly'n arbenigwyr wrth hyrwyddo a datblygu cymunedau Cymraeg."

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd yn credu bod y Ddeddf Gynllunio yn gwrth-ddweud ei hun, gan wneud dehongli'r ddeddf i ddatblygwyr yn aneglur.

Pryder arall yw nad oes cyfarwyddyd yn NCT20 sy'n nodi beth yw ardal o sensitifrwydd ieithyddol, ac nad oes cysondeb yn y termau sy'n cael eu defnyddio yn TAN20 wrth ei ddefnyddio ochr yn ochr â'r Ddeddf Gynllunio.

Ychwanegodd y Cynghorydd Siencyn: "Rydym yn gwbl argyhoeddedig y dylai'r NCT20 wneud yn gwbl eglur bod dyletswydd ar yr ymgeisydd sy'n chwilio am gais i ddatblygu tŷ ddangos sut y rhoddwyd ystyriaeth effeithlon i effaith yr adeilad hwnnw ar yr iaith Gymraeg a'r gymuned wrth roi'r cynnig at ei gilydd.

"Nid yw'r NCT20 yn cynnig unrhyw arweiniad ynglŷn â sut i wneud asesiadau iaith sy'n safonol a chyson eu naws er bod Nodiadau Cyngor Technegol eraill yn cynnig methodoleg bendant ynglŷn â sut i ymdrin ag elfennau fel tai fforddiadwy, cyfrifo Banc Tir ag ati. Tystiolaeth bellach nad yw'r Llywodraeth yn rhoi sylw addas na phriodol i sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru.

"Yn Ynys Môn a Gwynedd mae'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd o fewn y misoedd diwethaf eisoes yn cynnig arweiniad llawer cryfach wrth roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn y cyd-destun Cynllunio.

"Rydym yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Gynllunio, Lesley Griffiths i ail edrych ar y NCT20 i sicrhau eglurder a safon yn y gwaith o ystyried y Gymraeg wrth gynllunio tai."