AS yn llygadu sedd Dwyfor Meirionnydd?
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts wedi awgrymu y byddai'n ystyried sefyll fel aelod cynulliad yn y dyfodol.
Dywedodd aelod seneddol Dwyfor Meirionnydd ar Rhaglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru ei bod yn siomedig gyda phenderfyniad Dafydd Elis-Thomas i adael Plaid Cymru a chynrychioli'r etholaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol fel aelod annibynnol.
Ychwanegodd ei bod am wneud "gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru", a hynny yng Nghaerdydd.
Tra nad oes etholiadau ar gyfer y cynulliad tan 2021, dywedodd y byddai yna broses o ddewis ymgeisydd ac y bydd Plaid Cymru yn hwyr neu'n hwyrach yn edrych am ymgeisydd.
"Cofiwch fy mhrif broblem i ydi bod yn chwilfrydig gawn ni weld os di'r cyfle yn codi fan hyn,"
Ychwanegodd fod lot o waith i wneud yn y Senedd yn Llundain.
"Dwi ddim mor ifanc â hynny chwaith," meddai'r gwleidydd 52 oed.
"Felly mae gennyf gwestiwn beth sy'n ymarferol i'w wneud.
"Yn ymarferol fe fyddwn yn hoffi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru ac yng Nghaerdydd mae hynny."
Liz Saville Roberts yn siarad ar raglen Dewi Llwyd dydd Sul
Fe wnaeth cyn-arweinydd Plaid Cymru Arglwydd Elis-Thomas, ymddiswyddo o'r blaid ym mis Hydref, gan ddweud y byddai'n cefnogi'r Llywodraeth Lafur.
Cafodd AC Dwyfor Meirionnydd ei wneud yn weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon fis diwethaf wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ad-drefnu ei dîm.

Fe wnaeth Arglwydd Elis-Thomas ymddiswyddo o Blaid Cymru ym mis Hydref
Yn etholiad mis Mai 2016 roedd gan Arglwyd Elis-Thomas fwyafrif o 6,406, sef 47.3% o'r bleidlais tra'n sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru.