Cwmni bysus o Wrecsam yn dod â gwasanaethau i ben

  • Cyhoeddwyd
D Jones a'i Fab

Mae cwmni bysus sydd yn darparu cludiant i ddisgyblion ysgol a gwasanaethau lleol yn y gogledd ddwyrain wedi dod â gwasanaethau i ben.

Cyhoeddodd D Jones a'i Fab, o Acrefair ger Wrecsam, na fyddai unrhyw fysus yn rhedeg o 16 Rhagfyr ymlaen.

Dywedodd Gary Jones o'r cwmni nad oedden nhw wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ond eu bod wedi cau eu giatiau.

Mae cynghorau Wrecsam a Sir Ddinbych bellach wedi dod o hyd i ddarparwyr eraill ar gyfer cludo disgyblion.

'Trist iawn'

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Mr Jones: "Mae'n drist iawn, rydyn ni wedi bod yn rhedeg y busnes ers rhai blynyddoedd."

Wnaeth o ddim cadarnhau faint o staff oedd yn gweithio i'r cwmni, ond dywedodd fod y cwmni mewn sefyllfa ariannol gadarn a bod y broblem "fwy i'w wneud gyda staffio".

Rhybuddiodd y ddau gyngor y gallai plant ysgol sydd yn defnyddio gwasanaethau lleol gael eu heffeithio.

Mae'r ysgolion sydd wedi cael darparwyr eraill i gludo disgyblion yn cynnwys Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Uwchradd St Joseph's, Ysgol Gynradd St Mary's, Ysgol Gynradd Garth, Ysgol Bro Alun, Ysgol Plas Coch, Ysgol Brohyfryd, ac Ysgol Dinas Bran.

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newidiadau yn effeithio ar wasanaethau o Wrecsam i Sir Ddinbych, Sir Gaer, a Sir Amwythig

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam fod y newyddion wedi dod "yn ddirybudd", a bod hynny'n naturiol wedi achosi rhywfaint o helynt.

Mae'r cyngor wedi dweud fod D Jones yn rhedeg gwasanaethau 5, 6, 9, 10, 13b, 35, 41/42, 41B/42B, 44, J50, C56 ac 146 yn ardal Wrecsam.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod cwmnïau eraill yn parhau i redeg bysus rhwng Llangollen a Wrecsam, ond y gallai fod yn brysurach o hyn ymlaen yn y cyfnodau pan oedd disgyblion ysgol yn teithio.

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi cwrdd â D Jones a'i Fab ym mis Hydref, ac nad oedd "unrhyw awgrym fod y busnes mewn trafferthion ariannol".

"Rydyn ni nawr yn edrych i gael cyfarfod brys gyda Chyngor Wrecsam i drafod y sefyllfa a gosod mesurau yn eu lle i ddiogelu gwasanaethau bws lleol pwysig oedd yn arfer cael eu darparu gan D Jones a'i Fab yn ardal Wrecsam."

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol am yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth Cyngor Wrecsam: "Rydym yn parhau i ymateb i'r golled o D Jones & Sons ac mae swyddogion wedi gweithio, ac yn parhau i weithio'n galed i sicrhau darpariaeth amgen am y gwasanaethau a gollwyd.

"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd i gadw golwg ar ein cyfryngau cymdeithasol, a'r rhai darparwyr trafnidiaeth, er mwyn diweddaru ei hunain ar y sefyllfa gyda gwasanaethau amnewidiad. Bydd diweddariadau hefyd ar gael ar blog newyddion y cyngor.

"Mae adroddiad gwybodaeth yn atotedig, sydd wedi ei hanfon i bob aelod a chyngor cymunedol, er mwyn i ddiweddaru pawb wrth i'r sefyllfa ddatblygu."