Rhybudd meddyg am ddylanwad defnydd steroidau ar bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
NodwyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae meddyg yn rhybuddio bod pobl ifanc a phlant yn cael eu dylanwadu gan y defnydd o steroidau anabolig mewn campfeydd.

Daw wrth i Gymdeithas Cardiofasgwlaidd Prydain ddweud bod degau o filoedd o bobl mewn perygl o farw'n ifanc ar ôl camddefnyddio'r cyffuriau.

Yn ôl Dr Rhys Evans, cyn-gorffluniwr sy'n ymwneud â phrosiect cyfnewid nodwyddau yng Nghasnewydd, mae'r cyffuriau'n "rhwydd" i'w cael.

Mae'n gyfreithlon i gymryd steroidau yn y DU, ond yn anghyfreithlon i'w cyflenwi.

'Hawdd iawn'

Mewn sgwrs ar Y Post Cyntaf ar Radio Cymru, dywedodd Dr Evans bod dod o hyd i'r cyffuriau yn rhwydd.

"Mae'n hawdd iawn i'w cymryd nhw, achos maen nhw mor hawdd i'w cael, certainly lawr 'ma yng Nghaerdydd," meddai.

"Chi'n mynd mewn i gwpl o'r gyms 'ma, chi'n gweld pobl yn siarad amdanyn nhw - mae hwnna'n rhoi dylanwad gwael ar bobl ifanc."

Dywedodd bod llawer o'r cyffuriau'n dod o wledydd ble mae'n haws i'w cael nhw dros y cownter, fel Gwlad Thai neu Wlad Pwyl.

Un sy'n dweud ei fod wedi defnyddio'r cyffuriau ers bron i bum mlynedd yw Gareth Jenkins, 29 o ardal Caerdydd.

Dywedodd nad ydy o'n yfed na 'smygu, a bod hynny'n un o'r rhesymau pam ei fod yn credu bod cymryd y steroidau'n iawn.

"Mae'n siŵr ei fod yn wirion o safbwynt meddygol, ond dyna'r ffordd dwi'n dewis byw," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cytunodd Gareth Jenkins i gais gan BBC Newsbeat i fynd am brofion ar ei galon

Cytunodd Mr Jenkins i fynd am brofion i weld effaith y cyffuriau ar ei galon.

Yn ôl y canlyniadau, roedd mur ei galon wedi tewychu - casgliad sy'n ennyn pryder iddo.

"Dwi'n credu fy mod yn berson synhwyrol. Dwi ddim eisiau gwthio pethau i bwynt sy'n ddi-droi'n-ôl."

Mae Dr Evans yn credu hefyd bod lle i gael prosiectau arbenigol fel y Newport Needle Exchange sy'n helpu pobl sy'n cymryd cyffuriau fel steroidau, gan fod defnyddwyr yn gyndyn i drafod y peth gyda'u meddyg teulu.

"Mae isie'r gwasanaeth 'ma... achos dyw'r bobl 'ma ddim yn mynd i'r GPs i ddweud beth maen nhw arno," meddai.

"Ni yn pryderu bod 'na'n mynd i fod surge o effeithiau - trawiad ar y galon, strôcs.

"A hefyd eu bod yn gallu ystyried effeithiau eraill fel colli gwallt, acne, datblygu gynecomastia neu breast tissue, felly ni'n falch bod rhywbeth yn digwydd nawr."