Rhybudd yfed a gyrru wedi gwrthdrawiad Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi atgoffa pobl i beidio ag yfed a gyrru'r Nadolig hwn yn dilyn gwrthdrawiad ar un o brif strydoedd Caerdydd.
Cafodd gyrrwr car ei arestio ar ôl i'w gerbyd droi drosodd ar Heol Casnewydd nos Fawrth. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Bydd gyrrwr y car yn mynd o flaen ynadon wedi ei gyhuddo o yfed a gyrru.
Dywedodd yr heddlu: "Dyma'r rheswm pam na ddylech chi yfed a gyrru, diolch byth doedd dim anafiadau ac mae pawb oedd yn y cerbyd yn iawn."
