Rhybudd cynnar drwy dechnoleg arloesol Ysbyty Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Ysbyty Gwynedd, Bangor ymysg y cyntaf yn y byd i fabwysiadu technoleg arloesol sy'n rhybuddio staff pan fo iechyd claf yn dirywio'n gyflym.
Mae wardiau Moelwyn a Thryfan ymhlith y cyntaf yn Ewrop i ddefnyddio system gyfrifiadurol sydd wedi'i datblygu ar y cyd â chwmni Philips.
Mae'n arddangos statws iechyd pob claf yn awtomatig ar sgrin fawr yng nghanol y wardiau - ac yn rhybuddio os yw cyflwr unigolyn yn peri gofid.
Ers cyflwyno'r system mae nifer ataliadau'r galon ymhlith cleifion ar y ddwy ward wedi gostwng dros 80%.
Yn ôl Ffion Owen, nyrs ar ward Moelwyn, mae'r system yn golygu y gall staff flaenoriaethu'r cleifion sydd angen gofal ar unwaith.
"Oherwydd ein bod ni'n adnabod yn syth pryd mae claf yn dirywio, mi allwn ni alw am gefnogaeth yn gynt a chael y driniaeth briodol ar eu cyfer yn llawer cyflymach," meddai.
Sut mae'r system yn gweithio?
Fel sy'n gyffredin ar draws Cymru - mae staff ar y ddwy ward yn mesur a chofnodi tymheredd, pwysau gwaed, curiad calon, cyfradd anadlu a lefelau ocsigen pob un o'u cleifion.
Yn dibynnu i ba raddau mae'r mesuriadau hynny'n uwch neu'n is na'r rhai arferol mae claf yn cael sgôr:
Os yw'n 0 yna does dim rheswm i boeni.
Os yw'r cyfanswm rhwng 6 ac 8 mae'n golygu fod claf yn sâl iawn ac angen sylw.
Os yw'r sgôr yn cyrraedd 9 neu'n uwch - yna fe allai bywyd fod mewn perygl heb gymorth yn syth.
Yn draddodiadol nyrsys sy'n gyfrifol am fesur y sgôr, cofnodi'r wybodaeth yn nodiadau claf a rhybuddio'r tîm os yw'r claf yn dirywio.
Ond ar wardiau Moelwyn, sy'n gofalu am gleifion a phroblemau anadlu, a Thryfan, sy'n arbenigo mewn gastroenteroleg, mae hynny i gyd bellach yn digwydd yn awtomatig, diolch i'r system gyfrifiadurol newydd.
Unwaith fod claf ynghlwm â monitor, mae'r wybodaeth a'r sgôr, a sgoriau holl gleifion eraill y ward, yn cael eu dangos ar sgrin yng nghanol y ward.
Rhybuddio staff profiadol
Mae'r system yn rhybuddio os yw cyflwr claf yn dirywio'n gyflym, meddai Ilid Jones, nyrs ar ward Tryfan.
"Mae pawb ar y ward... yn gallu edrych ar y sgrin a gweld yn syth pwy sy'n gwaethygu, pwy efallai sy'n ofnadwy o wael a phwy sydd angen y mwyaf o sylw, yn lle bod angen mynd i ddarllen y nodiadau wrth ymyl y gwely," meddai.
Mantais arall yw bod y system hefyd yn anfon neges i dimoedd eraill yr ysbyty, yn cynnwys y meddyg mwyaf profiadol ar alw, os yw claf yn dirywio'n ddifrifol.
"Da'n ni'n gallu sbïo ar y teledu ger prif orsaf y nyrsys. Ac os yw statws claf yn arddangos yn goch mae'n golygu ein bod ni angen rhywun yma rŵan," meddai Bethan Gibbons, dirprwy nyrs ar ward Moelwyn.
"Os yw ei statws nhw yn felyn yna ry'n ni angen sbïo arnyn nhw yn fwy gofalus. Os yw cyflwr claf yn arddangos yn wyn dy' ni ddim mor bryderus.
"Mae'r system yn caniatáu i ni flaenoriaethu'n gwaith o ran anghenion ac iechyd y claf."
Canlyniadau
Ers cyflwyno'r system mae nifer ataliadau'r galon ar y ddwy ward wedi gostwng dros 80% mewn blwyddyn.
Mae cyfradd marwolaethau cleifion gafodd eu trosglwyddo o'r wardiau i unedau gofal dwys wedi gostwng 40%.
Ac mae nifer y digwyddiadau difrifol niweidiol, er enghraifft o ganlyniad i gamgymeriadau, wedi gostwng 35%.
Yn ôl Dr Chris Subbe, sydd wedi bod yn allweddol i ddatblygu'r system, mae'r gwelliannau'n arwyddocaol iawn.
"Ry'n ni'n trafod diogelwch yn y gwasanaeth iechyd yn gyson," meddai.
"Ond dy' ni ddim wedi llwyddo'n ddigonol hyd yma i fabwysiadu esiamplau da o ddiwydiannau eraill.
"Mae'r diwydiant awyrennau yn enghraifft berffaith, mae 'na wastad systemau wrth gefn i sicrhau diogelwch."
Mae'n dweud nawr bod y gwasanaeth iechyd yn ceisio dysgu gwersi o'r sectorau eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2015