Rhybudd am law ac eira mewn grym ledled Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd am law ac eira mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ar gyfer noson Gŵyl San Steffan.
Mae disgwyl i 15-25mm o law ddisgyn ar draws yr ardal ble mae'r rhybudd mewn grym, gyda pherygl o 30-40mm mewn mannau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd glaw trwm yn troi'n eira mewn rhai mannau.
Gall 1-2cm ddisgyn ar dir isel, a hyd at 10cm ar dir uchel.
Mae'r rhybudd mewn grym o 18:00 nos Fawrth nes 11:00 fore Mercher.
Llifogydd posib
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall llifogydd ac eira effeithio ar ffyrdd a rheilffyrdd, ac y gallai'r glaw achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau.
Yr ardaloedd allai wynebu trafferthion yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Yn dilyn diweddariad ddydd Mawrth, does dim rhybudd yn y gogledd bellach, ond mae'r rhybudd yn y de wedi ei ymestyn i ardaloedd newydd.