Pro14: Dreigiau 9-22 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Jeff Hassler o'r Gweilch yn cael ei daclo gan Carl Meyer o'r DreigiauFfynhonnell y llun, Asiantaeth Huw Evans

Fe hawliodd y Gweilch eu buddugoliaeth gyntaf yn y Pro14 ers Hydref 27 wrth drechu'r Dreigiau o 22-9 ar Rodney Parade.

Ond roedd yna bris i'w thalu wrth i ddau o chwaraewyr rhyngwladol Cymru orfod adael y maes yn hanner cyntaf y gêm.

Cafodd Dan Lydiate anaf i'w fraich a Cory Allen anaf i'r ysgwydd.

Ac fe fethodd y Gweilch â sgorio'r cais ychwanegol fyddai wedi sicrhau pwyntiau bonws.

Bachwr Cymru Scott Baldwin gafodd pwyntiau cyntaf y gêm gan groesi wedi gwaith taclus yn y llinell wedi wyth munud.

Daeth ymateb y tîm cartref drwy gôl gosb y maswr Arwel Robson a orffennodd y gêm gyda naw pwynt wedi tair ergyd at y pyst.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dan Lydiate yn gadael y maes wedi'i anafu

Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o weddill yr hanner cyntaf gyda'r canolwr rhyngwladol Cory Allen yn tirio a maswr Cymru Dan Biggar yn sgorio gôl gosb.

Daeth unig bwyntiau'r ail hanner gyda chais Sam Davies a throsiad gan Biggar.

Dyw'r Dreigiau heb ennill gêm gynghrair ers Medi 30.

Eu gwrthwynebwyr nesaf yw'r Scarlets ar 5 Ionawr tra bod tîm Steve Tandy yn croesawu Gleision Caerdydd ar 6 Ionawr.