Calennig! Blwyddyn Newydd Dda i bawb sydd yn y tŷ!
- Cyhoeddwyd

Tybed sut hwyl gafodd Soffia, Steffan ac Elenor Nicholas wrth hel Calennig yn y Buarth, Aberystwyth?

Fe gasglodd criw Calennig Melin Gruffydd yng Nghaerdydd £180 i'r Cylch Meithrin lleol wrth fynd o ddrws i ddrws yn yr Eglwys Newydd

Magw a Bedwyr (a Mam a Dad) yn casglu calennig yn Llandysul

Ffans Star Wars, Trystan a Llewelyn, yn canu Calennig yn ardal Llanbed

Dyma Hanna Ceri, Leisa Jên a Lleucu Medi fu'n casglu Calennig yn ardal Sarnau a Glynarthen

Bu'r criw yma yn hel calennig ym maes carafannau Erwbarfe ym Mhontarfynach

Tomos Ifan, Gwion Jac ac Anni Grug yn derbyn arian yn Nhregaron

Cafodd Elis Hockenhull lwyddiant yn casglu yn Nhregaron hefyd!

Tybed a wnaeth rhywun ateb y drws i Teifi ym Mhontyberem?

Canu pert gan Mabli, Gruffydd, Gwenno a Lleucu yng Nghapel Madog ger Aberystwyth

Elliw o Lanybydder yn canu o gwmpas Cwrtnewydd, Cwmsychpant a Drefach bore ‘ma! Wedi ‘joio mas draw, medde Mam!

Fe gasglodd Dafydd, Elen, Siwan a Gwenan arian i elusennau Oxfam ac UNICEF ym Mynachlogddu, Sir Benfro

Lisa ac Alaw ar eu ffordd i ganu calennig ym Mlaencwrt