Rhybudd am wyntoedd cryfion ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd y gallai gwyntoedd cryfion Storm Eleanor achosi trafferthion ar draws Cymru nos Fawrth a dydd Mercher.
Mae rhybuddion llifogydd ar gyfer nifer o gymunedau arfordirol, dolen allanol a phryder am effaith tonnau mawr a llanw uchel.
Oherwydd yr amodau, bydd cyfyngiadau cyflymder o 50mya ar rai o drenau Cymru o 19:00 nos Fawrth, allai olygu oedi neu ganslo gwasanaethau.
Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd yn dod i rym am 18:00 nos Fawrth ac yn para tan 18:00 nos Fercher.
Mae Western Power wedi cadarnhau fod bron i 300 o gartrefi yn Sir Gaerfyrddin a dros 50 o gartrefi yn Sir Fynwy heb drydan nos Fawrth, ac mae disgwyl i'r gwaith o ail-gysyltu'r cartrefi gael ei gwblhau o fewn ychydig oriau.
Canslo gwasanaethau fferi
Y llynedd, cafodd Cymru ei tharo gan nifer o stormydd a achosodd ddifrod yn enwedig ar yr arfordir.
Ynghyd â'r newidiadau i drafinidiaeth cyhoeddus, mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud ei bod hi'n debygol y bydd pontydd ar gau wrth i storm gyntaf y flwyddyn newydd gyrraedd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe fydd ffordd yr A487 yn Niwgwl, Sir Benfro - ar gau am o leiaf dwy awr o 18:00 nos Fawrth, pan fo'r llanw ar ei uchaf.
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cadarnhau fod ffordd yr A477 ar Bont Cleddau wedi cau i gerbydau uchel.
Mae traffordd yr M48 dros y Bont Hafren hefyd ar gau i loriau a cherbydau uchel.
Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau fferi Irish Ferries, dolen allanol a Stena Line, dolen allanol rhwng Cymru ac Iwerddon nos Fawrth a dydd Mercher wedi eu canslo oherwydd yr amodau ar Fôr Iwerddon.
Y rhybuddion llifogydd yn llawn ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol
Diweddaraf am y rhybudd tywydd ar wefan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol
Manylion y trenau sydd wedi eu heffeithio ar wefan Trenau Arriva Cymru, dolen allanol
Ar y rheilffyrdd, mae disgwyl oedi o hyd at 30 munud achos y cyfyngiadau cyflymder, sydd mewn grym am y tro rhwng 19:00 a 06:00.
Ymysg y trenau sydd eisoes wedi'u canslo mae'r gwasanaeth 16:50 brynhawn Mawrth rhwng Caergybi a Chaerdydd Canolog, a threnau o'r Amwythig i Landrindod a Chaerfyrddin i Lanymddyfri yn gynnar bore Mercher.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai'r tonnau achosi i wrthrychau o'r môr gael eu taflu i'r lan ac y gallai'r gwynt olygu bod tai'n colli eu cyflenwad trydan.