Express Motors: Saith yn gwadu twyll ariannol

  • Cyhoeddwyd
Bysus
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r saith yn gysylltiedig â chwmni bysiau Express Motors ym Mhenygroes

Mae saith o ddynion, a oedd yn gweithio gyda chwmni bysiau Express Motors ym Mhenygroes, wedi gwadu cyhuddiadau o droseddau yn ymwneud â thwyll ariannol.

Y saith diffynnydd yw Eric Wyn Jones, 76, o Bontnewydd, Ian Wyn Jones, 52, o Benygroes, Keith Jones, 50, o Landdaniel, Kevin Wyn Jones, 54, o Bontnewydd, Michael Munson, 51, o Lanllechid, Rheiunallt Williams, 43, o Ddeiniolen, ac Aled Wyn Davies, 41 oed, o Rosgadfan.

Maen nhw oll yn gwadu gorchymyn eraill i gyfrif mwy o docynnau teithio rhad, oedd ddim yn cael eu defnyddio mewn gwirionedd, er mwyn gwneud enillion anonest.

Mae'r erlyniad yn honni i'r troseddau ddigwydd rhwng Mehefin 2012 a Gorffennaf 2014.

'Ffurflenni ffug'

Mae Eric Wyn Jones, Ian Wyn Jones, Keith Jones a Kevin Wyn Jones hefyd yn gwadu cynllwynio i guddio arian y cwmni drwy beidio â chofnodi enillion yn gywir, methu a thalu treth ar arian parod ac o dalu arian i mewn i gyfrifon personol heb iddyn nhw gael eu dynodi yn incwm.

Mae'r erlyniad hefyd yn honni fod y cwmni wedi cyflwyno ffurflenni ffug i Gyngor Gwynedd wrth geisio hawlio arian yn ôl.

Mae Ian Wyn Jones hefyd wedi pledio'n ddieuog i drydydd cyhuddiad o fod gydag arian ffug yn ei feddiant yn 2014.

Mae'r saith wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl i'r achos yn eu herbyn ddechrau ym mis Medi.