Sut mae denu rhagor o bobl ifanc i wylio S4C?

  • Cyhoeddwyd
xx

Mae'n gyfnod heriol i ddarlledu yng Nghymru yn enwedig yn yr iaith Gymraeg.

Gall defnyddwyr ddewis rhwng cannoedd o sianeli teledu trwy glicio botwm, ac mae cyfresi cyflawn yn cael eu hychwanegu yn ddyddiol ar wasanethau fel Netflix ac Amazon Prime.

Mae Prif Weithredwr newydd S4C wedi dweud y bydd y sianel yn datblygu sianel ddigidol newydd yn y 18 mis nesaf.

Ar ddechrau blwyddyn newydd, Llion Carbis sy'n dyfalu beth yw goblygiadau'r datblygiadau yma i ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg:

Un o'r prif drafferthion sy'n wynebu dyfodol darlledu yng Nghymru yw datblygiad technolegau newydd sydd wedi dylanwadu ar y ffordd mae pobl yn defnyddio cynnwys.

Erbyn hyn, dyw nifer fawr o bobl ddim yn dilyn yr amserlenni sydd wedi eu llunio gan y darlledwyr. Bellach, mae pobl ifanc yn enwedig yn galw am gynnwys yn syth.

Anaml iawn rwy'n llwyddo i wylio rhaglen deledu yn fyw, rwy'n ddibynnol ar wasanaethau fel BBC iPlayer, S4C Clic a Sky Go fel modd o wylio rhaglenni. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer mwyafrif llethol o bobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc.

Felly mae'n hanfodol bod darlledu yng Nghymru yn dangos parodrwydd i addasu a gwneud rhagor o ddefnydd o dechnolegau newydd i rannu eu cynnwys.

Disgrifiad o’r llun,

Mae S4C wedi dechrau rhoi cyfresi drama cyflawn, fel Bang, ar y we er mwyn ceisio denu gwylwyr newydd

Un o'r prif fygythiadau sy'n wynebu darlledu yng Nghymru yw dyfodol S4C.

Rwy'n tueddu i wylio S4C ar gyfer y ddarpariaeth chwaraeon ragorol sy'n cael ei chynnig, ond dwi ddim yn gwylio'r sianel yn ddigonol i fy ngwneud yn wyliwr rheolaidd.

Y bobl biau'r cyfrwng...

Rwy'n credu y dylai fframwaith gael ei chreu sy'n rhoi hyfforddiant i blant ac oedolion ifanc o bob cwr o Gymru i fynd ati i greu cynnwys eu hunain ar gyfer S4C.

Mae cyfle euraid gan S4C i geisio efelychu'r llwyddiant mae sianel fel BBC Three wedi ei gael trwy ddarparu rhaglenni yn uniongyrchol ar yr iPlayer.

Mae gwasanaeth Hansh ar S4C yn gam mawr i'r cyfeiriad cywir trwy dargedu cynnwys perthnasol a digrif tu hwnt i bobl ifanc ar y we.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth, un o sêr newydd darlledu Cymraeg

Er gwaethaf llwyddiant gwasanaeth Hansh, dolen allanol, rwy'n teimlo fod yna wacter yn bodoli o gynnwys newyddiadurol dwys sy'n ymdrin â materion cyfoes i bobl ifanc.

Dyma fwlch sydd angen ei lenwi yn enwedig ar ôl i gyfres faterion cyfoes Hacio ddod i ben [dolen allanol]., dolen allanol Hoffwn hefyd weld rhagor o ddarpariaeth chwaraeon ar y sianel.

Rhaid canmol gallu'r sianel i hudo cynulleidfaoedd newydd sydd bellach yn defnyddio cynnwys cyfrwng Cymraeg ond mae lle i wella.

Rwy'n ffyddiog ac yn gymharol hyderus am ddyfodol darlledu yng Nghymru, ond rhaid sicrhau ein bod ni'n cydnabod ac yn ymateb yn bositif i'r heriau mae'r diwydiant yn eu wynebu.

Mae Llion Carbis yn astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.