Lluniau: Storm Eleanor

  • Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn ddechrau stormus i 2018 yng Nghymru wrth i storm Eleanor ruo. Dyma i chi syniad o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd mewn sawl rhan o Gymru yn ystod yr oriau diwethaf:

Disgrifiad o’r llun,

Unwaith eto, roedd prom Aberystwyth dan y lach wrth i'r tonnau dorri

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gyrrwr yma o Hensol, Bro Morgannwg yn ffodus i ddianc gyda mân anafiadau wedi i'w gar daro yn erbyn coeden oedd wedi syrthio yn y gwyntoedd cryfion.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ambell un yn barod i fentro gyrru yn Aberystwyth er gwaetha'r tywydd garw

Ffynhonnell y llun, Chris Pain
Disgrifiad o’r llun,

Wrth iddi wawrio, roedd y gwynt yn dal yn ffyrnig iawn ym Mhorthcawl

Ffynhonnell y llun, Ashok Ahir
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Nadolig drosodd ac mae Eleanor wedi penderfynu chwynnu'r ceirw tu fas Castell Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Chris Pain
Disgrifiad o’r llun,

Yn amlwg dyma'r lle i fod i gael llun da o'r tonnau'n torri dros bier Porthcawl

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na beryg i afon Wysg orlifo yn Tyndyrn, Sir Fynwy

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Ac yn ôl yn Aberystwyth, roedd y tonnau dal yn uchel wedi i'r haul godi

Disgrifiad o’r llun,

A nawr mae'r gwaith clirio'n dechrau