Storm Eleanor: Teulu'n dianc ar ôl colli to eu cartref
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o'r Barri ym Mro Morgannwg yn dweud eu bod nhw'n wynebu wythnosau oddi cartref ar ôl i'r to gael ei chwythu i ffwrdd gan storm Eleanor.
Cafodd Matthew Venables, ei bartner Natasha a'u plant Louis, un oed, a Theo, sy'n wyth wythnos oed, eu gorfodi o'u cartref yn Gibbonstown yn y Barri am 02:00 fore Mercher.
Mae'r difrod yn achos gofid pellach, am nad oes gan y teulu yswiriant i drwsio'r to.
Fe gododd y gwynt eu to mewn un darn, a'i chwythu i faes parcio cyfagos, cyn glanio ar gar. Chafodd neb niwed.
Dywedodd Nicola Bethel, chwaer Matthew wrth BBC Cymru Fyw: "Mae'n drychineb iddyn nhw fel teulu.
"Dim ond y lloriau pren a'r trawstiau sydd ar ôl. Mae fy nhad wedi bod lan i'r to bore 'ma i geisio trwsio cymaint ac y gallai, ond does dim un rhan o'r to fflat ar ôl."
"Fe glywodd fy mrawd sŵn enfawr, cyn gweld to adeilad yn gorffwys ar gar gerllaw. Ar y pryd, dywedodd wrth ei hun, "gobeithio nad fy un i yw hwnna", ond pan aeth e alla, fe welodd e'r difrod i'r to.
"Daeth yr heddlu a'r frigâd dân heibio a dweud wrthyn nhw bod rhaid iddyn nhw symud allan, am fod rhaid troi'r trydan, y dŵr a'r nwy i ffwrdd."
Mae'r pedwar wedi symud i aros gyda theulu Natasha, ond gan nad oes ganddyn nhw yswiriant, dywedodd Nicola nad ydyn nhw'n gwybod pryd fyddan nhw'n gallu dychwelyd adre.
Maen nhw nawr wedi dechrau apêl arlein i godi arian ar gyfer y teulu.
"Dydyn nhw ddim wedi cael amser da yn ddiweddar chwaith," meddai Nicola.
"Fe dorrodd eu boeler yn ystod wythnos Nadolig, ac mae eu mab wyth wythnos oed ar feddyginiaeth gwrth-feiotig am fod ganddo Bronchiolitis.
"Y peth ola oedden nhw ei angen oedd hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2018