'Peidiwch â pharcio'n anghyfreithlon ar y Bannau'

  • Cyhoeddwyd
A470Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae gyrwyr wedi cael dirwyon am barcio'n anghyfreithlon yn yr ardal yn y gorffennol

Mae'r heddlu'n annog ymwelwyr â Bannau Brycheiniog i beidio â pharcio'n anghyfreithlon ar y brif ffordd rhwng gogledd a de Cymru, yr A470.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn disgwyl nifer fawr o bobl i ymweld ag ardal Pen-y-Fan am fod ras yn cael ei chynnal yno dros y penwythnos.

Bydd swyddogion yn cynnal patrolau cyson i sicrhau nad oes ceir yn parcio ger ardal y Storey Arms.

Fe wnaethon nhw annog pobl i barcio mewn mannau eraill a dod o hyd i ffyrdd gwahanol i fyny'r mynydd.

'Nifer o lefydd eraill'

Dywedodd Sarjant Owen Dillon o adran plismona'r ffyrdd y llu: "Yn ogystal â'r nifer fawr o ymwelwyr rwy'n disgwyl i ddringo Pen-y-Fan, mae digwyddiad y Fan Dance yn cymryd lle, gan ddenu mwy sydd eisiau parcio yn yr ardal.

Ychwanegodd bod "nifer o lefydd eraill i barcio os yn ymweld â'r Bannau".

"Byddwn yn parhau â'n patrolau o ardal y Storey Arms ac yn gweithredu ble fo angen," meddai.

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau nad yw'r A470 yn cael ei rwystro, a bod pobl yn cadw at y rheolau a pheidio parcio ar y ffordd."