Mark Hughes wedi'i ddiswyddo fel rheolwr Stoke

  • Cyhoeddwyd
Mark HughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Hughes oedd rheolwr Cymru am bum mlynedd rhwng 1999 a 2004

Mae Mark Hughes wedi cael ei ddiswyddo gan Stoke ar ôl iddyn nhw golli i Coventry o Adran Dau yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Roedd Hughes, 54, wedi bod yn rheolwr y clwb am bedair blynedd a hanner ar ôl olynu Cymro arall, Tony Pulis.

Fe arweiniodd y clwb i'r 13eg safle yn yr Uwch Gynghrair y llynedd, ar ôl gorffen yn nawfed am y tair blynedd cyn hynny.

Ond dim ond pump allan o 22 gêm mae'r clwb wedi ennill yn y gynghrair y tymor yma.

Hughes i Gymru?

Mae Stoke yn 18fed yn yr Uwch Gynghrair ar ôl rhediad o saith colled mewn 10 gêm

Cafodd Stoke eu trechu 2-1 gan Coventry - sydd dair cynghrair yn is - ddydd Sadwrn, ac roedd rhai cefnogwyr â baneri yn galw ar Hughes i adael neu i'r bwrdd ei ddiswyddo.

Mae'n debygol y bydd Hughes nawr yn cael ei gysylltu â swydd rheolwr Cymru - swydd yr oedd ynddi am bum mlynedd rhwng 1999 a 2004.

Bydd Craig Bellamy, Ryan Giggs ac Osian Roberts yn cael eu cyfweld ar gyfer y swydd honno yr wythnos nesaf.