Adnewyddu bedd hanesyddol â chysylltiad brenhinol

  • Cyhoeddwyd
bedd

Mae'r gwaith o dacluso ac adnewyddu bedd sydd o ddiddordeb hanesyddol yn cael ei gwblhau yng Nghaerfyrddin ddydd Mawrth.

Mae'r bedd dan sylw yn Eglwys Dewi Sant, a chred nifer ei bod yn fan gorwedd i un o wyresau'r Brenin Siôr III - sef Caroline Georgiana Catherine Prytherch.

Cred rhai bod y brenin wedi priodi'n ddirgel gyda menyw o'r enw Hannah Lightfoot pan oedd yn Dywysog Cymru, a bod ei wyres Caroline wedi ei chladdu yn y fynwent.

Ond mae sawl arbenigwr wedi codi cwestiynau ynglŷn â'r stori honno.

Difrod gan iorwg

Mae criw o wirfoddolwyr wedi bod wrthi yn adfer ei bedd ers sawl wythnos, ac mae'n rhan o gynllun ehangach i drawsnewid y fynwent sydd wedi bod mewn cyflwr difrifol tan yn ddiweddar.

Fe wnaeth clawr y bedd gwreiddiol, sy'n pwyso dros dunnell, gael ei rannu mewn dau o ganlyniad i ddifrod gan iorwg.

Roedd yn rhaid datgymalu'r bedd gwreiddiol a'i ailadeiladu'n gyfan gwbl, drwy ddefnyddio bariau haearn er mwyn rhoi mwy o gryfder i'r strwythur.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr wedi bod wrthi yn adfer bedd sydd, o bosib, yn fan gorwedd i un o wyresau'r Brenin Siôr III yn Eglwys Dewi Sant

Disgrifiad o’r llun,

Ers wythnosau mae gwaith wedi ei wneud i adnewyddu mynwent yr eglwys

Oherwydd pwysau, mae angen craen i gwblhau'r gwaith o roi'r clawr newydd ar fedd Caroline Georgiana Catherine Prytherch.

Mae merch ieuengaf Caroline, Margaret Augusta, a'i chwaer hynaf Charlotte wedi eu claddu yn Eglwys San Pedr yn y dref.

Cafodd eu beddi eu darganfod ar ddamwain 17 mlynedd yn ôl wrth i weithwyr wneud gwaith cynnal a chadw ar lawr yr eglwys.

Dywedodd Dr Huw Michael o elusen Thomas ac Elizabeth Mayhook, sy'n gofalu am y fynwent, fod gordyfiant dros y blynyddoedd wedi ei gwneud hi'n anodd ymweld â'r safle o gwbl.

"O ran y bedd roedd iorwg a thyfiant yn golygu fod y bedd wedi cracio dros y blynyddoedd," meddai.

"Mae'r clawr yn pwyso tunnell ac mae angen craen i wneud y gwaith.

"Yna y gwaith fydd yn dechrau yn ystod haf eleni yw cynnal a chadw'r fynwent, a ni'n awyddus i greu llwybrau o fewn y fynwent er mwyn i bobl ymweld â beddi diddorol."