Disgwyl ailgodi baner Y Ddraig Goch dros Gastell Nedd

  • Cyhoeddwyd
castell nedd

Mae Cyngor Tref Castell-nedd wedi dweud y byddan nhw'n ailgodi'r Ddraig Goch y tu allan i waliau castell y dref.

Dywedodd cynghorydd lleol yr wythnos diwethaf ei fod wedi derbyn cwynion gan drigolion fod baner Cymru wedi ei thynnu i lawr a'i disodli gyda Jac yr Undeb.

Mae'r cyngor bellach wedi dweud fod y ddwy faner wedi eu tynnu i lawr o Gastell Nedd adeg y tân gwyllt ym mis Tachwedd, a bryd hynny daeth i'r amlwg fod un Y Ddraig Goch mewn cyflwr gwael.

Maen nhw bellach wedi archebu un newydd, ond dyw hi heb gyrraedd eto.

'Dim amarch'

Roedd Jamie Evans, cynghorydd sir yn y dref, wedi dweud yn gynharach y byddai'n cyflwyno cwynion y trigolion i'r cyngor tref.

"Rydyn ni yng Nghastell-nedd, fel gweddill Cymru, yn bobl falch ac fel unrhyw wlad arall yn y byd dylai ein baner genedlaethol hedfan dros ein henebion hanesyddol," meddai wrth WalesOnline.

Disgrifiad o’r llun,

Bellach mae baner Dewi Sant yn chwifio ochr yn ochr â Jac yr Undeb ger Castell Nedd

Yn dilyn y feirniadaeth a ddilynodd, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor tref, Jan Lockyer, mai dros dro yn unig yr oedd Y Ddraig Goch yn absennol.

"Fydden ni fyth wedi bod yn amharchus i'n gwlad ein hunain," meddai wrth BBC Cymru.

Dywedodd eu bod bellach yn aros am faner newydd, ar ôl canfod fod yr un gwreiddiol mewn cyflwr gwael.

Yn y cyfamser, cafodd baner Jac yr Undeb ei hailgodi unwaith eto wrth furiau'r castell.

Mae baner Dewi Sant hefyd wedi cael ei chodi yno bellach.