Wyneb ffordd newydd i leihau sŵn ger Abergwyngregyn
- Cyhoeddwyd
Bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar ffordd yr A55 uwchlaw Abergwyngregyn er mwyn lleihau faint o sŵn sy'n cael ei wneud gan gerbydau.
Ers sawl blwyddyn mae trigolion y pentre' wedi bod yn cwyno bod lefel y sŵn yn cael ei waethygu gan atsain o'r llwybr cul sy'n arwain at Raeadr Aber.
Nawr mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd wyneb lleddfu sŵn newydd yn cael ei osod yr A55 yn ystod y gwaith ffordd rhwng cyffordd Abergwyngregyn a Thai'r Meibion.
Buddugoliaeth bwysig
Dywedodd yr AS lleol, Hywel Williams: "Mae hyn yn fuddugoliaeth bwysig i bentrefwyr Abergwyngregyn sydd wedi bod yn ymgyrchu ers tro i wella wyneb ffordd ddeuol yr A55 sy'n pasio wrth ymyl y pentref.
"Mae pentrefi eraill ymhellach i'r dwyrain wedi cael arwynebau lleihau sŵn ers amser maith.
"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cydnabod yr angen i fynd i'r afael â'r sefyllfa."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe allwn ni gadarnhau bod y cynllun gwaith ffordd wedi cael ei ymestyn i gynnwys ail-osod wyneb y ffordd gydag wyneb lleddfu sŵn dros ran o'r A55 sy'n pasio heibio pentref Abergwyngregyn."
Mae disgwyl i'r gwaith gael gwblhau erbyn haf 2019.