Dirywiad cyflwr Menai'r crwban yn 'tristáu' sŵ môr Môn
- Cyhoeddwyd
Mae staff sŵ môr wnaeth ofalu am grwban prin ddaeth i'r lan ar Ynys Môn yn 2016 wedi eu "tristáu'n arw" o glywed fod ei chyflwr wedi dirywio.
Cafodd y crwban môr pendew Olive Ridley ei henwi'n Menai gan staff ar ôl ei darganfod ar lan afon Menai yn Tachwedd 2016.
Haf y llynedd, cafodd y crwban ei hedfan i Gran Canaria yn y gobaith y byddai'n gwella'n gynt mewn awyrgylch gynhesach.
Ond mae Sŵ Môr Ynys Môn wedi dweud ar Facebook nad yw pethau'n edrych yn dda i Menai erbyn hyn.
'Rhy hwyr i'w hachub'
Dyma oedd y tro cyntaf ers i gofnodion gychwyn dros 200 mlynedd yn ôl i grwban o'r fath gael ei darganfod ym Mhrydain.
Dywedodd neges ar dudalen y sŵ môr: "Rydyn ni wedi'n tristáu'n arw i glywed bod cyflwr Menai wedi dirywio'n sydyn dros y ddwy i dair wythnos diwethaf, ac rydyn ni'n ofni ei bod hi'n rhy hwyr i'w hachub hi."
Ychwanegodd y sŵ: "Fe hedfanon ni Menai i Gran Canaria ddiwedd mis Mehefin y llynedd er mwyn ei pharatoi ar gyfer rhyddhau, ac iddi ddod yn gyfarwydd ag amgylchedd cynhesach.
"Yn anffodus, mae'n ymddangos bod ei chyflwr wedi gwaethygu'n raddol ers iddi gyrraedd.
"Ers i ni sylweddoli hyn, rydyn ni wedi bod yn chwilio'n galed am rywle mwy addas i'w rhoi hi."
Mae crwbanod o'r fath i'w cael fel arfer mewn moroedd cynnes a throfannol ger Mecsico a de'r UDA, a dydyn nhw ddim fel arfer yn goroesi mewn dyfroedd oerach o gwmpas Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2016