Ffermwr yn ddieuog mewn achos ymladd moch daear

  • Cyhoeddwyd
Moch daear

Mae ffermwr o ardal Blaenau Ffestiniog wedi ei gael yn ddieuog o gadw eiddo ar gyfer cynnal gornest anifeiliaid, wedi i fudiad anifeiliaid yr RSPCA ollwng yr achos yn ei erbyn.

Roedd Evan Bleddyn Thomas, 52 oed yn gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Daw hyn yn dilyn cyrch gan yr elusen, oedd yn honni eu bod wedi darganfod bod moch daear yn cael eu dal a'u gorfodi i ymladd.

Mae'r achos yn erbyn dau ddyn arall a bachgen 13 oed yn parhau.

Profiad 'trawmatig'

Ddydd Llun yn y llys yn Llandudno fe ddaeth yr RSPCA â'u hachos yn erbyn Mr Thomas i ben.

Dywedodd cyfreithiwr yr amddiffyniad, Donald Roberts, fod hyn wedi bod yn brofiad "trawmatig iawn" i Mr Thomas, wedi i'w gymeriad "dilychwin" gael ei gwestiynu.

Clywodd y llys fod y ffermwr wedi cael nifer o alwadau ffôn bygythiol o ganlyniad i'r cyhuddiad.

Dywedodd Mr Roberts fod yr erlyniad wedi honni y dylai Mr Thomas fod wedi gwybod fod yna weithgareddau anghyfreithlon yn cael eu cynnal yno, ac y dylai fod wedi gweithredu ar hynny, a'i fod yn cymryd bellach fod yr RSPCA yn derbyn nad oedd yn gwybod.