'Dwi'n dewis bod yn Gymro'
- Cyhoeddwyd
I'r rhan fwyaf o bobl mae'r wlad a'r diwylliant maen nhw'n perthyn iddi wedi ei benderfynu o'r crud ac yn aros yn rhan o'r hyn sy'n eu diffinio. Ond ydy hi'n bosib newid eich cenedl?
Mae Cymru Fyw wedi sgwrsio gyda thri o Loegr sy'n flaenllaw yn eu maes yng Nghymru ac sy'n dewis galw eu hunain yn Gymry erbyn hyn.
Dewis yw bod yn Gymro meddai'r Athro Dafydd Johnston a gafodd ei eni a'i fagu yn Swydd Efrog ond sydd erbyn hyn yn teimlo ei fod yn perthyn i Gymru nid i Loegr.
Mae'n awdurdod ar farddoniaeth Gymraeg yr oesoedd canol ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Ond doedd ganddo ddim cysylltiad â Chymru nes iddo ddechrau astudio hen ieithoedd yn y brifysgol yng Nghaergrawnt.
"Wrth astudio'r ieithoedd Celtaidd yn y brifysgol, fe wnes i gael cyngor y byddai'n syniad da mynd ar gwrs i ddysgu Cymraeg modern," meddai'r Athro Johnston, a newidiodd ei enw o David i Dafydd.
"Fe wnes i hynny yn Aberystwyth dros yr haf a mwynhau'n fawr iawn a dechrau ymddiddori yn yr iaith fodern. Yna fe ddes i adnabod Cymry Cymraeg yng Nghaergrawnt drwy Gymdeithas y Mabinogi a dechrau cael hwyl arni, mwynhau eu cwmni, a dechrau mynd i Gymru ac i'r Steddfod i wella fy Nghymraeg."
Aeth yn ôl i Aberystwyth ar ôl graddio i wneud doethuriaeth ac yn fuan wedyn fe briododd â Siân, o deulu Cymraeg o Gaerfyrddin, a magu tri o blant yn y Gymraeg.
"Wedyn fe wnes i ddechrau teimlo 'mod i'n perthyn yn deuluol yn ogystal ag yn ieithyddol," meddai.
"Erbyn hyn, rydw i'n Gymro, yn sicr ac wedi bod ers blynyddoedd.
"Doedd na ddim ryw drobwynt yn arbennig, roedd yn fater o ddod i adnabod mwy a mwy o bobl a dod yn hoff ohonyn nhw. Roedd dysgu'r iaith yn gyfle i ddod i adnabod pobl yn well a theimlo mai gyda'r bobl yma ro'n i eisiau bod ac mai iddyn nhw ro'n i'n perthyn.
"Mae gen i deulu o hyd yn Lloegr sy'n Saeson. Mae gen i frawd a chwaer a'u teuluoedd nhw.
"Dydyn nhw ddim yn deall - maen nhw'n rhyfeddu a braidd yn ddilornus. Maen nhw'n gweld yr iaith Gymraeg yn wastraff amser llwyr.
"Mae'n fater o deimlo mod i'n perthyn fan hyn - dwi'n dewis hynny. Dwi'n gweld y byd o safbwynt Cymru. Dyna fy mhersbectif i ar y byd.
"Mae'n fater o ddewis ymwybodol dwi'n credu. Mae rhywun yn rhydd i ddewis lle maen nhw eisiau perthyn."
Mike Parker
Mae Mike Parker yn awdur a darlledwr a gafodd ei fagu ddim ymhell o'r ffin yn Sir Gaerwrangon. Daeth i fyw i Gymru yn 2000 a dysgu Cymraeg ac mae erbyn hyn yn byw yn Narowen ger Machynlleth gyda'i bartner sy'n wreiddiol o'r ardal. Mae'n galw ei hun yn "Gymro o ddewis".
"Mae'r lle ges i fy magu, a lle mae fy nhad yn dal i fyw, ddim ond ryw ddwy awr o lle dwi'n byw nawr. Dydi e ddim yn bell, ond mae yn bell hefyd, dyna'r peth," esbonia.
"Dwi'n gweld lot o bobl yma sydd ddim yn sylweddoli bod y lle wedi newid wrth ddod dros y ffin - bod yr awyrgylch a'r diwylliant wedi newid.
"I fi roedd yn rili amlwg ei fod yn rhywle ar wahân ers pan o'n i'n grwt bach - ro'n i'n dod i Gymru ac yn gweld yn syth pa mor wahanol yw e.
"Roedd hynny'n rhywbeth ffantastig i'w weld ac yn rhoi bach o obaith i fi bod yr holl fyd ddim fel 'Middle England', diolch byth.
"Mae popeth yn wahanol - sut mae'n swnio, sut mae'n arogli, sut mae pobl yn siarad. Bron bob tro rydych chi'n teithio dros y ffin o Loegr i Gymru mae rhywbeth yn yr awyr yn newid, mae'r teimlad yn newid.
"Roedd galw fy hun yn Gymro yn rhywbeth reit raddol. Nes i symud yma yn 2000 ond roeddwn i yng Nghymru lot yn y nawdegau er mwyn ymchwilio i'r Rough Guide to Wales a nes i gwrdd â lot o bobl gyfeillgar.
"Er mod i'n teimlo'n fwy Cymreig, ar yr un pryd dwi'n teimlo'n fwy Saesnig hefyd wrth fod yma achos dwi'n fwy sensitif i ba mor wahanol ydy fy nghefndir i i gefndir pobl leol; mae gen i baggage gwahanol iddyn nhw a mae lot o bethau dwi ddim rili yn eu deall neu ddim yn ei deimlo fel nhw.
"Dwi'n teimlo'n rhan o'r ardal yma achos dwi'n gant y cant sicr mod i'n rhan o'r gymuned - y gymuned leol yma ydy fy hunaniaeth i nawr."
Patrick McGuinness
Mae Patrick McGuinness yn awdur ac academydd sy'n darlithio mewn Ffrangeg a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen ond yn cyfrif Caernarfon, lle mae ei deulu'n byw, fel ei gartref.
Wedi ei eni yn Tunisia i dad o dras Gwyddelig o Tyneside a mam o Wlad Belg, mae'n hanner Sais a hanner Belgiad a chafodd ei anfon oddi cartref i'r ysgol yn Lloegr. Mewn erthygl i Wales Online , dolen allanoldywedodd ei fod erbyn hyn yn "dewis bod yn Gymro".
"Mae nifer o bethau mewn bywyd yn digwydd yn ddamweiniol. Fe gwrddais â Chymraes pan wnes i ddechrau dysgu yn Rhydychen, a dyma fi, yn Gofi anrhydeddus," meddai wrth Cymru Fyw.
"Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf pan oeddwn yn tyfu i fyny y buaswn yn byw yng Nghaernarfon ac yn magu plant oedd yn Gymry, fuaswn i ddim wedi eu credu, ond os ydw i'n stopio i feddwl am y peth dwi'n sylweddoli bod 'na resymeg i hyn.
"Cefais fy magu mewn diwylliannau oedd yn wahanol i'r diwylliant swyddogol Brydeinig sy'n dominyddu, ac mae'n naturiol mod i wedi canfod fy ffordd i Gymru. Pan ddes i i Gymru gyntaf, yn 1996, mi wnes i feddwl: 'mae hon yn wlad wahanol'.
"Pam dewis bod yn Gymro? Am fy mod yn hoffi'r underdog? Am fod gen i amheuaeth naturiol o'r overdog? Hoffter o lefydd a phobl nad ydyn nhw dan y camargraff eu bod nhw'n well na phawb arall? Diwylliannau sy'n gwrthsefyll cael eu gorchfygu? Oherwydd teimlad fod hunaniaeth Brydeinig mewn gwirionedd yn ddim ond hunaniaeth Seisnig wedi ei orfodi ar eraill?
"Fedrith neb ddarllen hanes Cymru heb deimlo'n ddig am beth sydd wedi ei wneud i Gymru. Mae Raymond Williams yn dweud hynny - y cwestiwn ydy beth i'w wneud amdano. Rydych chi'n dechrau, fel yn fy achos i, drwy ddewis i bwy rydych chi'n perthyn."