Miliwn o siaradwyr Cymraeg: Eich awgrymiadau chi
- Cyhoeddwyd

Fydd y miloedd yn troi'n filiwn?
Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dyna ydy'r targed, ond beth yw eich argymhellion chi?
Aeth Elin Maher, ymgynghorydd iaith annibynnol o Gasnewydd, ati i wthio'r cwch i'r dŵr trwy lunio canllawiau ar ei thudalen Facebook. Mi wnaeth Cymru Fyw rannu rhai o'i hawgrymiadau gan ofyn am eich ymateb chi.
Dyma ddetholiad o'ch syniadau chi i geisio mynd i'r afael â nod Llywodraeth Cymru:

Gwneud i ffwrdd a'r syniad o "Gymru Ddwyieithog"
Mae'n syniad hollol hurt. Mae'n bosib ei fod yn gwneud synnwyr mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn wan. Ond mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn iaith bob dydd dydy anelu at greu Gymru ddwyieithog ddim yn gwneud unrhyw synnwyr!
Nev Evans, Ynys Môn


Oes angen bod yn ddwyieithog?
Dysgu hanes Cymru
Rhaid dysgu hanes Cymru o safbwynt Cymru ym mhob ysgol er mwyn i'r plant werthfawrogi eu diwylliant. Yna, byddan nhw eisiau gwarchod eu hiaith heb i neb eu gorfodi i ddysgu Cymraeg.
Junko Salmon, Oklahoma, UDA

Cysoni safonau dysgu
Rhaid mynd ati i ledaenu/cysoni'r dulliau dysgu hynny yn ysgolion Cymru ac ymysg athrawon Cymraeg. Er enghraifft, beth am adeiladu ar ddulliau dysgu'r canolfannau trwytho iaith yn ardaloedd o Gymru sy'n llwyddo'n aml i wneud disgyblion di-Gymraeg i ddod yn fwy rhugl a hyderus yn yr iaith dros gyfnod byr. Mae'n bwysig rhannu unrhyw arfer da.
Noir Jones, Abertawe

Cyflogi staff dwyieithog
Mae angen gorfodi cyrff cyhoeddus yng Nghymru, cynghorau ayyb, i gyflogi pobl ddwyieithog os ydyn nhw yn delio â'r cyhoedd. Mae angen dechrau gwneud hynny yn yr ardaloedd mwyaf Cymreig yn syth!!! Byddai yna werth dysgu'r Gymraeg i gael swydd wedyn fel yr oedd hi yn yr 80au.
Arfon Wyn, Ynys Môn


Cefnogaeth gyson i athrawon
Mae angen cefnogaeth ac hyfforddiant cyson yn y Gymraeg i athrawon cynradd ac uwchradd er mwyn magu hyder wrth ddysgu ac addysgu'r iaith. Mae angen sicrhau bod amser digonol yn yr amserlen fel bod gwir gyfle i athrawon cymwys addysgu'r iaith i ddisgyblion ail iaith.
Rhiannon Packer, Caerdydd


"Dal ymlaen! Jest yn achub yr iaith Gymraeg!"
Dilynwch yr is-deitlau
Annog dysgwyr i gryfhau eu geirfa trwy wylio omnibws Pobol y Cwm gydag is-deitlau Saesneg bob pnawn Sul am 17:30 ar S4C.
Hedydd Owen, Caerdydd

Cymraeg yn hanfodol i'r Cyfnod Sylfaen
Rhaid sicrhau bod pob ysgol gynradd yn penodi siaradwyr Cymraeg er mwyn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen. Mae angen o leiaf gradd B mewn TGAU Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth ar bob darpar athro/athrawes. Mae angen ychwanegu'r Gymraeg at y cymwysterau yma.
Gareth Williams, Yr Wyddgrug

Hefyd o ddiddordeb...