Oedi wrth gyflwyno cofnodion electroneg i gleifion
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i ddigido cofnodion cleifion y gwasanaeth iechyd yn wynebu oedi sylweddol ac mae gwendidau allweddol yn y trefniadau o'i gyflwyno, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.
Dywedodd adroddiad gafodd ei ryddhau ddydd Iau nad oes cytundeb ar y cyllid angenrheidiol sydd ei angen ar gyfer cynllun i greu cofnod electronig.
Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, mae risg y gallai'r gwasanaeth iechyd ddiweddu gyda system fydd eisoes yn hen ffasiwn.
Mae BBC Cymru wedi holi Llywodraeth Cymru am sylw.
'Gwendidau allweddol'
Mae'r cynllunio ar gyfer creu system o gofnodion electroneg yn dyddio nôl i 2003.
Dywedodd y Swyddfa Archwilio fod "elfennau allweddol yn cael eu gweithredu" ond fod "oedi sylweddol" wedi bod, ac "er gwaethaf datblygiadau diweddar, mae yna wendidau allweddol yn y trefniadau cyflwyno".
Yn ôl yr adroddiad, mae angen i Lywodraeth Cymru benderfynu sut y byddan nhw'n darparu'r arian ychwanegol sylweddol sydd ei angen.
Mae'r gwasanaeth iechyd yn amcangyfrif bod angen £483.7m i gyllido'r gwasanaeth.
Dywedodd yr adroddiad nad yw Llywodraeth Cymru na gwahanol gyrff o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi ymrwymo i ddarparu'r cyllid.
O'r 30 prosiect sy'n cael eu cyflwyno gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dim ond saith sydd o fewn eu hamserlen, mae 13 yn wynebu "ychydig o oedi", tra bod naw yn wynebu "oedi sylweddol iawn".
'Penderfyniadau anodd'
Yn ôl yr adroddiad mae pob rhan o'r GIG, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, "nawr yn wynebu penderfyniadau anodd o ran a ddylid darparu cyllid newydd er mwyn cynllunio'n effeithiol i gyflawni systemau newydd, cyfredol mewn amserlen resymol, a sut i wneud hynny".
Dywedodd Mr Vaughan Thomas: "Bydd rhoi'r weledigaeth o gofnod cleifion electronig ar waith yn golygu y bydd angen i bob rhan o'r GIG, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wneud penderfyniadau anodd, yn enwedig o ran cyllido, blaenoriaethu a galluogi clinigwyr i gael amser a lle i arwain yr agenda hwn.
"Oni bai ei fod yn mynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn fy adroddiad, mae yna berygl y bydd y GIG yn wynebu mwy o rwystredigaeth ymhlith staff y rheng flaen, ac, yn y pen draw, yn meddu ar systemau a fydd eisoes yn hen ffasiwn erbyn iddynt gael eu cwblhau."
'Angen gwneud yn well'
Dywedodd Nick Ramsay AC, cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad: "Mae'n dda bod y GIG yn gwneud llawer o'r gwaith paratoi ar gyfer cofnod claf electronig.
"Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen i'r GIG wneud yn well yn y ffordd y mae'n blaenoriaethu ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu systemau newydd, gan gynnwys drwy arweinyddiaeth effeithiol a threfniadau llywodraethu gwell."