Liam Williams yn dychwelyd o anaf ar gyfer y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae olwr Cymru Liam Williams ar gael i chware i Saracens yn erbyn y Gweilch yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ddydd Sadwrn ar ôl bod yn absennol am ddeufis oherwydd anaf.
Dyw Williams heb chwarae ers iddo gael ei anafu wrth chwarae dros Gymru yn erbyn Georgia ar 18 Tachwedd.
Dywedodd Saracens fod y chwaraewr yn holliach ac ar gael i chwarae.
Mae disgwyl felly y bydd Williams yn ffefryn i gael ei ddewis gan Gymru ar yr asgell yng ngêm gyntaf y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban ar 3 Chwefror.
Ar hyn o bryd mae'r asgellwyr George North a Hallam Amos yn absennol oherwydd anafiadau, tra bod Steff Evans wedi ei wahardd.