Gwrthdrawiad car a lori: Dynes wedi marw yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Safle'r ddamwain yng NgellilydanFfynhonnell y llun, Daily Post
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ffordd yr A487 yng Ngellilydan wedi cau am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad fore Iau

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 yng Ngwynedd.

Fe gafodd ail ddynes a babi - merch fach 6 mis oed - eu cludo i'r ysbyty mewn hofrennydd wedi'r gwrthdrawiad yng Ngellilydan am 11:15 fore Iau.

Roedd y dair yn teithio mewn Ford Fiesta oedd mewn gwrthdrawiad â lori.

Bu farw dynes oedd yn teithio yn sedd flaen y Fiesta yn y fan a'r lle.

Cafodd y ddynes oedd yn gyrru'r car ei chludo i ysbyty yn Stoke a'r babi ei chludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Apêl heddlu

Mae'r ddwy wedi cael anafiadau difrifol all beryglu eu bywydau.

Mae perthnasau'r dair yn cael cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth, a dywedodd y Leigh Evans o'r Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rydym yn gwybod erbyn hyn bod pedwar cerbyd wedi stopio yn safle'r gwrthdrawiad i helpu ac rydym yn awyddus i siarad gyda'r gyrwyr a theithwyr y cerbydau hyn."

Mae'r ffordd bellach wedi ail agor.