Rhybudd am eira a rhew mewn rhannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer eira a rhew mewn rhannau o Gymru wedi dod i rym fore Mawrth.
Mae disgwyl i'r tywydd effeithio ar drafnidiaeth mewn rhai ardaloedd oherwydd rhew ar y ffyrdd.
Dywed y Swyddfa Dywydd fod y rhybudd yn bennaf ar gyfer canolbarth Cymru.
Mae Irish Ferries wedi cadarnhau bod teithiau wedi eu canslo oherwydd y tywydd, gan gynnwys y 14:45 o Benfro i Rosslare, a theithiau 11:50 a 17:15 rhwng Caergybi a Dulyn.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall y tywydd gwael hefyd effeithio ar y ffyrdd a rheilffyrdd, ac mae posibilrwydd y bydd rhai pontydd yn cau.
Mae hefyd rhybudd ar wahân ar gyfer gwynt cryf iawn yn dod i rym ledled y DU ar gyfer nos Fercher tan ddydd Iau.
Fe fydd y rhybudd mewn grym o 04:00 ddydd Mawrth tan 11:00 ddydd Mercher.