Achos Betty Guy: 'Fe allen ni ei wadu... si yw'r cyfan'
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor wedi dechrau gwrando ar sgyrsiau a gafodd eu recordio gan yr heddlu rhwng mam a mab sy'n cael eu cyhuddo o lofruddio dynes oedrannus yn Hwlffordd.
Mae Penelope John, 50, a Barry Rogers, 33, yn gwadu llofruddio Betty Guy, 84 o Hwlffordd, yn Nhachwedd 2011 trwy ei mygu gyda chlustog ar ôl rhoi tabledi a wisgi iddi.
Cafodd y recordio cudd ei drefnu yng nghartref Ms John ar ôl i Heddlu Dyfed-Powys arestio a holi'r ddau mewn perthynas â marwolaeth Mrs Guy - mam Ms John a mam-gu Mr Rogers.
Yn ystod y recordiad, mae Mr Rogers i'w glywed yn dweud wrth ei fam: "Fe allwn ni ei wadu, allan nhw ddim profi unrhyw beth oherwydd does dim tystiolaeth, si yw'r cyfan."
'Fi wnaeth y weithred'
Wrth gyfeirio at ei mam oedrannus yn y recordiad, mae Ms John yn dweud: "Roedd hi'n hen, roedd hi'n sâl ac fe wnaeth hi jest marw."
Mae Mr Rogers hefyd yn dweud wrth Ms John: "Fi wnaeth gwblhau'r weithred... does gen ti ddim i'w boeni ynghylch, Mam."
Wrth ailadrodd yr hyn roedd wedi'i ddweud wrth yr heddlu, honnodd Mr Rogers: "Nes i ddweud bod fi a mam yn agos at ein gilydd - ydych chi'n meddwl y bydden ni mor agos petawn ni wedi mynd â'i mam oddi wrthi?"
Clywodd Llys y Goron Abertawe hefyd bod Mr Rogers wedi holi ei gyn-wraig am ei barn ynghylch ewthanasia cyn cyfaddef ei fod wedi lladd ei fam-gu.
Dywedodd Lisa Watkins ei bod wedi cymryd yn ganiataol bod y bensiynwraig wedi bod yn wael pan ddywedodd y diffynnydd wrthi fod ei fam-gu wedi gofyn am help i farw.
Wnaeth o ddim disgrifio sut yr oedd wedi mynd ati i wneud hynny.
'Tynnu coes'
Clywodd y rheithgor am gyfres o negeseuon Facebook rhwng Mr Rogers a Ms Watkins ar ôl i'r cwpl wahanu.
Yn un o'r negeseuon, fe gyfeiriodd Mr Rogers at ben-blwydd marwolaeth ei fam-gu gan ysgrifennu: "Bu farw mam-gu dair blynedd i ddydd Gwener ar ôl i mi ei lladd."
Wrth gael ei chroesholi, fe gytunodd Ms Watkins bod Mr Rogers yn aml yn "chwilio am sylw, cydymdeimlad neu serch".
Ychwanegodd ei fod yn dweud weithiau ei fod wedi lladd ei fam-gu ac yna'n dweud ei fod yn tynnu coes, a bod dim modd dibynnu ar ei air.
Mae Ms John a Mr Rogers yn gwadu llofruddiaeth a chyhuddiad pellach o ddynladdiad.
Mae'r achos yn parhau.