Dau chwaraewr heb gap yng ngharfan Chwe Gwlad Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dau chwaraewr sydd heb ennill cap wedi eu cynnwys yng ngharfan rygbi Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Mae 39 yn y garfan gydag Alun Wyn Jones yn arwain.
Y ddau chwaraewr sydd heb gael cap ydy blaenasgellwr y Scarlets, James Davies, ac asgellwr Caerwrangon, Josh Adams.
Mae'r garfan yn fwy na'r arfer, yn rhannol oherwydd pryderon am ffitrwydd llond llaw o'r chwaraewyr.
Mae Taulupe Faletau wedi ei gynnwys er na fydd yn gallu chwarae'n syth am fod ganddo anaf i'w ben-glin.
Mae'r asgellwr George North hefyd yn y garfan er bod amheuaeth amdano yn sgil anaf, ac mae'r chwaraewr rheng ôl Ross Moriarty yn dychwelyd ar ôl methu'r rhan fwyaf o'r tymor wedi anaf i'w gefn.
Bydd ei ddychweliad yn cael ei groesawu am fod Sam Warburton a Dan Lydiate allan ar gyfer y tymor, yn ogystal â'r canolwr Jonathan Davies.
Dyw'r canolwr Jamie Roberts na'r clo Luke Charteris ddim wedi eu cynnwys y tro yma.
Carfan Cymru'n llawn:
Blaenwyr: Rob Evans, Wyn Jones, Nicky Smith, Scott Baldwin, Elliot Dee, Ken Owens, Tomas Francis, Samson Lee, Dillon Lewis, Adam Beard, Bradley Davies, Seb Davies, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capten), James Davies, Taulupe Faletau, Ellis Jenkins, Ross Moriarty, Josh Navidi, Aaron Shingler, Justin Tipuric.
Olwyr: Aled Davies, Gareth Davies, Rhys Webb, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Rhys Patchell, Rhys Priestland, Hadleigh Parkes, Owen Watkin, Owen Williams, Scott Williams, Josh Adams, Hallam Amos, Alex Cuthbert, Steff Evans, Leigh Halfpenny, George North, Liam Williams.