Dau rybudd melyn am dywydd drwg i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn am dywydd drwg yn ystod dydd Mercher yng Nghymru.
Mae'r rhybudd cyntaf am eira a rhew - o 11:35 fore Mawrth tan 11:00 fore Mercher - yn debygol o effeithio ar bob rhan o Gymru heblaw'r arfordir.
Ond mae rhybudd arall am wyntoedd cryfion yn dod i rym am 21:00 ddydd Mercher tan 11:00 fore Iau.
Mae cwmni Irish Ferries wedi canslo teithiau rhwng Doc Penfro a Rosslare, tra bod y gwasanaeth 11:50 a 17:15 rhwng Caergybi a Dulyn hefyd wedi ei ganslo.
Gwyntoedd hyd at 80mya
Mae disgwyl i'r gwyntoedd ymledu tua'r dwyrain yn ystod y nos ac fe allai amharu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â chau rhai pontydd.
Yn ôl y rhybudd fe allai'r gwyntoedd hyrddio'n ddigon cryf i achosi difrod i adeiladau, ac fe allai tonnau uchel ar hyd yr arfordir gael effaith hefyd.
Gallai'r gwyntoedd gyrraedd hyd at 80mya mewn mannau.
Er nad yw llwybr y gwyntoedd yn gwbl glir, mae disgwyl i ogledd Cymru weld y gwaethaf ohonynt.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd: "Ynghyd â'r gwyntoedd cryfion fe allwn ni hefyd ddisgwyl cyfnod o law trwm gan arwain at lifogydd mewn mannau."
Mae'r rhybudd hefyd yn dweud y gallai cyflenwadau trydan gael eu colli.