ACau eisiau i ganabis fod ar gael at ddefnydd meddygol
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio o blaid cynnig yn galw am ganiatáu i ganabis gael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpas meddygol.
Roedd grŵp trawsbleidiol o ACau o'r blaid Geidwadol, Llafur a Phlaid Cymru wedi dweud bod nifer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau Parlys Ymledol (MS) ac sy'n defnyddio math gyfreithlon o ganabis, dan fygythiad o gael eu herlyn.
Maen nhw'n galw ar weinidogion yng Nghymru i lobïo gweinidogion yn San Steffan i weithredu.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad i gyfreithloni canabis.
'Niweidiol'
Mae canabis ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn gyffur Dosbarth B - mae'r Swyddfa Gartref yn dweud bod tystiolaeth wyddonol a meddygol ei fod yn niweidiol.
Ond fe wnaeth y Ceidwadwr Mark Isherwood, Mike Hedges o'r blaid Lafur a Rhun ap Iorwerth a Leanne Wood AC o Blaid Cymru ddadlau bod "tystiolaeth glinigol bod defnyddio canabis am resymau meddygol yn effeithiol".
Dywedodd Mr Isherwood: "Rydym wedi cwrdd ag etholwyr sy'n byw gyda nifer o gyflyrau, gan gynnwys MS, epilepsi, dystonia a chanser, sy'n gweld yr effaith o ddefnyddio canabis am resymau meddygol, ond drwy wneud hynny maen nhw dan fygythiad o gael eu herlyn."
Mae un math o gyffur canabis ar gael drwy'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar gyfer dioddefwyr MS o'r enw Sativex - ond mae Sefydliad MS wedi dweud fod mynediad at y cyffur wedi bod yn fratiog.
Nid yw'r cyffur chwaith ar gael y tu allan i Gymru.
Dywedodd Mr Hedges: "Ni ddylwn ymyrryd gyda gallu meddyg i ddarparu presgripsiwn.
"Dydw i ddim o blaid cyfreithloni canabis, ond os oes buddion meddygol gyda chanabis, ac mae pobl gyda MS allai elwa ohono, yna dwi'n credu dylai fod yn rhywbeth na ddylai doctoriaid gael eu hatal rhag eu gwneud."
Dywedodd Leanne Wood: "Mae'r dystiolaeth glinigol ac anecdotaidd o ba mor effeithiol yw canabis ar gyfer defnydd meddygol yn argyhoeddiadol."
Roedd y drafodaeth ar lawr y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU i aildrefnu canabis ar gyfer defnydd meddygol, gan nad yw'r mater wedi'i ddatganoli.
Fe wnaeth 31 o ACau gefnogi'r cynnig yn galw ar i ganabis fod ar gael ar bresgripsiwn ar gyfer defnydd meddygol, gyda dau yn pleidleisio yn erbyn ac 18 yn atal eu pleidlais.
'Lleddfu symptomau'
Mae Rhian Cowen, 46 o Ddoc Penfro yn dioddef o MS.
Dydy hi ddim yn defnyddio canabis sydd ar gael yn gyfreithlon ond mae hi'n defnyddio cynnyrch sy'n cynnwys CBD, sylwedd sydd ddim yn seicoweithredol sydd mewn canabis.
Dywedodd bod y sylwedd yn helpu iddi leddfu'r symptomau.
"Mae mor effeithiol," meddai.
"Pan oeddwn yn mynd drwy'r broses o gael diagnosis fe wnes i stopio ei ddefnyddio, er mwyn i'r symptomau ddechrau eto. Roeddwn yn crynu'n ofnadwy, a chur pen drwy'r amser.
"Dwi ddim yn deall beth yw'r broblem o ran rhoi presgripsiwn i gael mariwana meddygol."
Nid yw CDC wedi'i drwyddedu ar gyfer defnydd meddygol yn y DU, ond mae'n cael ei werthu ar-lein fel "ychwanegyn".
'Niweidiol'
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref "nad oes bwriad gan Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis".
"Rydym yn sylwi fod pobl mewn poen annioddefol a salwch gwahanol yn edrych am ffyrdd i leddfu eu symptomau," meddai.
"Ond mae hi'n bwysig i feddyginiaethau gael eu profi'n iawn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau cyn cael eu gosod ar y farchnad, er mwyn i ddoctoriaid a chleifion fod yn siŵr o'u heffeithiolrwydd, safon a'i diogelwch.
"Mae canabis yn gyffur dosbarth B ac mae tystiolaeth wyddonol a meddygol ei fod yn niweidiol, gallai niweidio iechyd meddwl a ffisegol person, yn ogystal â niweidio cymunedau ac unigolion."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cynhwysion sy'n deillio o ganabis yn gallu chwarae rôl wrth drin rhai cyflyrau meddygol, ac rydym wedi sicrhau bod Sativex ar gael yng Nghymru yn dilyn proses asesu trwyadl.
"Nid ydym yn cefnogi nac am ddilyn llwybr o ddefnyddio cyffur amrwd o faint anhysbys."