Y byd yn chwarae yn y Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd y Gymraeg i'w chlywed ar draws y byd cyn bo hir mewn gêm gyfrifiadurol newydd.
Mae'r gêm Swynstorïwr, Llais y Ddraig sydd wedi'i gosod yn Oes yr Haearn, yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gan gwmni Quantum Soup o bentref Carrog yn Sir Ddinbych.
Yn ôl un o gyfarwyddwyr y cwmni, Chris Payne, lleisiau Cymraeg fydd i'w clywed os nad yw'r defnyddiwr yn dewis chwarae yn Saesneg.
Seiniau'r Gymraeg
"Rydyn ni'n mynd i allforio'r gêm dros y byd," meddai Chris, "ond cwmni bach ydyn ni a dydyn ni ddim yn gallu fforddio recordio'r lleisiau ymhob iaith, felly byddwn yn defnyddio isdeitlau fel arfer.
"Ond pan fydd rhywun yn dewis unrhyw iaith heblaw Saesneg ar gyfer yr isdeitlau, y lleisiau Cymraeg fydd i'w chlywed."
"Os ydy rhywun yn gwneud dewis sy'n awgrymu nad ydyn nhw'n deall Saesneg, waeth iddyn nhw gael y lleisiau yn Gymraeg. Y ffordd honno maen nhw hefyd yn mynd i elwa o glywed seiniau'r Gymraeg - gan ei bod yn swnio'n wahanol i'r Saesneg - a dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig er mwyn creu syniad o le ac amser."
Mae'r cwmni'n gweithio ar y gêm ers peth amser, gyda chefnogaeth gan S4C fel rhan o strategaeth ddigidol y sianel, ond nid oes dyddiad rhyddhau pendant ar ei chyfer ar hyn o bryd.
Bardd prentis o'r enw Gwen ydy prif ffocws y gêm, a thasg y chwaraewr fydd ei helpu i uno'r llwythau Celtaidd yn erbyn y Rhufeiniaid drwy ddefnyddio grym straeon a chaneuon.
Mae'r cwmni hefyd newydd ryddhau fersiwn 'demo' o gêm arall sydd hefyd â'i gwreiddiau yn y byd Celtaidd.
Mae Annwn yn gêm strategol swrreal lle mae'r chwarae'n digwydd ar nifer amhenodol o ynysoedd - ac mae'r cwmni wedi rhyddhau fersiwn brawf am ddim yr wythnos hon fel tamaid i aros pryd - ac er mwyn cael adborth gan chwaraewyr.
Er mawr syndod i Chris fe ddechreuodd yr adborth hwnnw gyrraedd yn sydyn iawn.
Cŵn Annwn
"O fewn 12 awr roedd rhywun wedi rhoi fideo ohonyn nhw'n chwarae'r gêm ar YouTube, sydd yn anhygoel! Mae tueddiad cynyddol i bobl wylio fideos o bobl eraill yn chwarae gemau, a dyna oedd ein cyfle cyntaf i weld rhywun yn chwarae ein gêm - ac yn mwynhau!
"Yn Annwn mae'r gelyn yn gallu galw ar gŵn gwyllt i fynd ar eich ôl chi - cŵn gwyn gyda chlustiau coch fel Cŵn Annwn yn y Mabinogi. Mae'r cyfeiriadau diwylliannol yna yn gyfarwydd os ydych chi eisoes yn ymwybodol o'r straeon, ond hyd yn oed os nad ydych chi yn eu nabod, mae defnyddio elfennau o'r hen straeon yn ffordd dda o ysgogi dychymyg pobl."
"Mae 'na alw mawr am sefyllfaoedd diddorol ar gyfer gemau ac mae 'na apêl mewn lleoliadau hanesyddol, ac er bod angen rhyddid creadigol hefyd er mwyn creu adloniant, mae'n golygu bod angen llawer o waith ymchwil er mwyn sicrhau bod yr elfennau hanesyddol mor fanwl gywir ag sy'n bosib. Mae angen dylunio ac adeiladu'r holl adeiladau a'r props, er eu bod yn bodoli mewn byd rhithwir."
Dylanwad Celtaidd
Er bod Swynstorïwr wedi'i lleoli yn Oes yr Haearn, dywed Chris eu bod yn awyddus i ail-greu ambell leoliad cyfarwydd yn y gêm. Un o'r rheiny ydy Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn.
"Mae fy mhrif ddiddordeb mewn ail-greu'r diwylliant Celtaidd, fel y traddodiad llafar a rolau'r derwyddon a'r beirdd yn y diwylliant hwnnw."
Dywed Chris, sy'n wreiddiol o Coventry, bod ei ddiddordeb mewn hanesion Cymreig a Cheltaidd wedi'i gynnau drwy straeon JRR Tolkein a byd gemau Dungeons & Dragons, sydd â'u gwreiddiau yn y 70au.
"Fe wnaeth hynny fy nghyflwyno i i fyd ffantasi cyffredinol, ond wrth i mi ddarllen mwy am y maes hwnnw fe wnes i ddarganfod bod hanes go iawn y Celtiaid yn llawer mwy diddorol na'r hanesion dychmygol mwy modern. Maen nhw wedi goroesi dros y blynyddoedd ac mae'n cymryd stori gref iawn i barhau mor hir.
"A dyna mae Swynstorïwr yn ei drafod - y grym sydd gan straeon i atseinio drwy'r oesoedd."
Mae Chris Payne yn un o'r siaradwyr yn "Tu Hwnt i'r Ffiniau", digwyddiad sy'n cael ei gynnal gan Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, fore Gwener, 19 Ionawr yng Nghanolfan Pontio.