Betty Guy: Ŵyr yn dweud sôn am berthynas 'anhygoel'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o fygu ei fam-gu i farwolaeth wedi dweud wrth Lys y Goron Abertawe fod gan y ddau berthynas "anhygoel".
Dywedodd Barry Rogers, 33, nad oedd hi erioed chwaith wedi gofyn iddo derfynu ei bywyd.
Mae Mr Rogers a Penelope John, 50, yn gwadu llofruddio Betty Guy, 84 o Hwlffordd, yn Nhachwedd 2011 drwy ei mygu gyda chlustog ar ôl rhoi tabledi a wisgi iddi.
Y noson fu farw ei fam-gu, dywedodd Mr Rogers ei fod wedi bod yn ysmygu canabis yn ei gartref yn Frome, Gwlad yr Haf pan gafodd alwad ffôn gan ei fam i ddweud fod Mrs Guy yn ddifrifol wael ac y gallai farw yn ystod y nos.
Dywedodd wrth y llys fod ei fam wedi bygwth lladd ei hun os oedd Mrs Guy yn marw, felly fe ruthrodd yn ôl i orllewin Cymru gan ei fod yn pryderu am ei lles.
Pan ofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Stephen Henley QC a oedd Mrs Guy wedi marw pan gyrhaeddodd, fe atebodd: "Na."
"Wnaethoch chi ei mygu gyda chlustog?", gofynnodd Mr Henley.
"Yn sicr ddim," atebodd Mr Rogers.
A wnaeth hi ofyn i chi erioed wneud hynny?" gofynnodd.
"Naddo," meddai Mr Rogers unwaith eto.
Fe wnaeth Mr Rogers hefyd ddweud "Na" pan ofynnodd ei fargyfreithiwr os oedd ei fam-gu erioed wedi gofyn iddo "gyflymu'r broses i ddod â'i bywyd i ben".
Clywodd y llys fod Mr Rogers wedi dweud wrth nifer o dystion ei fod wedi ymwneud â marwolaeth ei fam-gu. Ond pan ofynnodd ei fargyfreithiwr am hyn, fe wadodd Mr Rogers.
Pan ofynnwyd iddo a wnaeth ddweud hynny yn y lle cyntaf, dywedodd Mr Rogers nad oedd yn cofio.
Clywodd y llys fod Mr Rogers wedi cwblhau pum mlynedd yn y fyddin gan wasanaethu yn Basra yn Irac.
Er i nifer o dystion ddweud ei fod wedi saethu a lladd person ifanc o Irac, dywedodd wrth y llys ei fod wedi ymwneud â'r digwyddiad, ond nad oedd yn gwbl sicr os mai fe oedd yn gyfrifol.
Mae'r achos yn parhau.