Codi arian i gefnogi bachgen 15 oed sydd â chanser prin

  • Cyhoeddwyd
Tad Owen ac OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Owen Thomas (dde) wybod fod ganddo ganser prin cyn y Nadolig

Mae ffrindiau a chyd-ddisgyblion bachgen 15 oed sydd â chanser prin yn ceisio codi arian i'r teulu cyfan fynd i America er mwyn iddo barhau gyda'i driniaeth.

Cafodd Owen Thomas, sydd yn mynd i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern ac yn cael ei ddisgrifio fel "gŵr bonheddig" y newyddion bod ganddo'r salwch yn ei geg a chefn ei wddw ddau ddiwrnod cyn y Nadolig.

Ar ôl cael cemotherapi cafodd wybod ei fod angen triniaeth proton fydd yn targedu'r celloedd canser yn Jacksonville, Florida.

"Mae triniaeth fel hwnna draw fan hyn, ond achos bod e yn ei geg mae'n rhaid i'r driniaeth fod yn ganolog i'r canser hwnna yn ei geg. Felly mae'r peiriant yn beiriant canolog i'r wyneb.

"Dyna'r unig ffordd allan nhw drin y canser yna heb wneud niwed i'w ben," meddai Cerys Young wrth Cymru Fyw.

Trefnu gweithgareddau

Mae hi a'i gŵr wedi bod yn brysur yn cydlynu'r holl weithgareddau ac yn adnabod Owen am fod eu mab yn ffrind iddo.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cerys Young mae'r teulu yn ddiolchgar iawn am yr holl weithgareddau sydd wedi eu trefnu i godi arian

Fe aethon nhw ati i sefydlu tudalen ar y we i godi arian ddydd Mawrth diwethaf ac ers hynny maen nhw wedi codi dros £7,700.

"Mae'r NHS yn mynd i dalu am y driniaeth ac i gymryd un o'i rhieni, falle dau. Ond bydd dim digon o arian i fynd a'r teulu i gyd draw gyda nhw.

"Bydd yr arian hyn yn helpu i gymryd y teulu i gyd a'r plant a chadw nhw gyda'i gilydd am yr amser hwn."

Ymhlith yr hyn sydd wedi ei drefnu i Owen, sy'n un o bump o blant, mae diwrnod golchi ceir dydd Sadwrn fydd yn cynnwys 15 o glybiau ceir gwahanol, cerdded i fyny mynydd Pen y Fan a thaith feics o Aberhonddu i Gaerdydd.

Mae raffl hefyd yn cael ei gynnal ym mis Chwefror ac ymhlith y gwobrau mae tocynnau i gêm bêl droed Caerdydd, tocynnau i weld Only Men Aloud a llun wedi ei arwyddo gan y chwaraewyr rygbi Rhys Priestland.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith diddordebau Owen mae pethau hanesyddol a gemau fideo

Mae'r ysgol wedi bod ynghlwm gyda'r ymgyrch i gael arian yn y coffrau ac yn ôl y dirprwy brifathro, Alan Williams, mae'n bwysig cefnogi ymdrechion y disgyblion a'r rhieni.

"Mae disgyblion, ffrindiau Owen wedi deud wrtha ni mae ei hoff liw o ydy glas. Felly yfory mae bob disgybl yn mynd i wisgo un eitem glas gyda'i gwisg ysgol ac maen nhw'n mynd i gyfrannu £1 at yr achos am wneud hynny.

Codi llawer o arian

"Mae 'na un bachgen yn y chweched y bora 'ma wedi cynnig siafio ei ben. Felly mae 'na bob math o syniadau yn dod i mewn.

"'Dan ni'n gweithio efo pawb i geisio sicrhau bod gymaint o'r syniadau 'ma ag sy'n bosib yn digwydd fel bod ni i gyd yn gallu codi cymaint o arian ag y gallwn ni."

Un sydd yn adnabod Owen yn dda yw Jac, sy'n 16 oed ac wedi bod yn ffrind iddo ers sawl blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Ers i Owen gael y diagnosis mae eu ffrindiau wedi uno i geisio codi arian meddai un cyfaill iddo, Dyfed Jenkins-Davies

Roedd clywed fod ganddo ganser yn "sioc fawr" meddai ond mae'n dweud eu bod nhw fel criw o ffrindiau yn benderfynol i'w gefnogi.

"Mae'n cael llawer o ffrindiau agos sy'n trio eu helpu oherwydd mae wedi bod yn agos i bob un ohonyn nhw. Mae e wedi bod yna pryd ni angen e a nawr fi'n credu mai'n amser i ni ddangos bod ni yna iddo fe."

'Ddim ar ben ei hun'

Y targed ariannol yw £20,000 ac mae angen codi'r arian o fewn saith wythnos am fod y meddygon eisiau dechrau'r driniaeth ym mis Mawrth.

Yn ôl Dyfed, un o'i ffrindiau gorau, byddai gorfod mynd i America heb ei frodyr a chwiorydd yn anodd iddo.

"Mae'n beth pwysig iawn i Owen gael teulu fe yna oherwydd un o'r pethau pwysig iawn am rywbeth fel hyn yw bod chi yn gwybod bo' chi ddim ar ben eich hun a ddim yn ymladd brwydr ar ben eich hun."