Ffermwr o Wynedd yn anhapus â bil cyngor am sarnu olew

  • Cyhoeddwyd
huw jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hywel Jones wedi cynnig talu £150 am y gwaith mae'r cyngor wedi ei wneud

Mae ffermwr o Wynedd wedi dweud nad ydi o'n bwriadu talu bil o £580 mae o wedi'i dderbyn gan y cyngor sir, ar ôl iddo sarnu ychydig o olew ar y ffordd.

Cafodd y bil ei gyflwyno i Hywel Jones o Ddyffryn Ardudwy am waith glanhau ar ffordd ger ei fferm, wedi i un o'i gerbydau amaethyddol ollwng olew.

Ym mis Mehefin y llynedd roedd Mr Jones ar ei ffordd i chwalu tail ar dir ei fferm, ac yn teithio lawr ffordd wledig o'i gartref.

Pan gyrhaeddodd waelod y ffordd efo'i dractor, fe deimlodd beipen yn byrstio o dan y cerbyd cyn gweld llyn bach o olew ar y llawr.

"Es i nôl fyny a rhoes i dywod arno a meddwl well i fi riportio fo," meddai Mr Jones.

'Rhy ddrud'

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi disgrifio'r ffigwr fel un "cwbl afresymol".

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn ceisio adennill costau am wneud gwaith clirio ar y ffyrdd sy'n eu gofal.

Roedd y bil gwreiddiol gafodd Mr Jones yn £929, cyn i'r ffigwr ddod lawr i £580.

Yn ôl Mr Jones, rhyw ddwy droedfedd sgwâr oedd y pwll olew.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Jones yn gyrru tractor ar draws y gyffordd pan dorrodd y beipen olew

"Ar ôl i fi ffonio'r cyngor y diwrnod wedyn daeth dau o fois y cyngor efo fan a sweeper," meddai.

Ond yn ôl Mr Jones mae'r bil yn dal "rhy ddrud".

"Mymryn o waith [oedd o], doedd ond isio brwsh a rhaw. Doedd dim isio sweeper a rhyw job fawr," ychwanegodd.

"Mae o'n rhy ddrud am y gwaith ma' nhw 'di wneud. Dwi ddim yn pasa talu'r bil."

Mae Hywel Jones wedi cynnig talu £150 am y gwaith mae'r cyngor wedi ei wneud.

Dywedodd Huw Jones, Swyddog Sirol Undeb Amaethwyr Cymru ym Meirionnydd fod bil glanhau Cyngor Gwynedd yn "gwbl afresymol".

'Tu allan i oriau gwaith'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel sy'n arferol mewn achosion lle mae difrod wedi ei achosi i un o ffyrdd y sir y mae'r cyngor yn gyfrifol am eu cynnal, fe wnaeth staff y cyngor gyflawni gwaith diogelu a chlirio ar y safle yn yr achos yma.

"Rydym yn ddiolchgar i'r unigolyn am hysbysu'r cyngor am y mater. Fe wnaeth staff y cyngor fynychu'r safle y tu allan i oriau gwaith arferol i ddiogelu'r lleoliad a oedd ar gyffordd ac allt serth, er mwyn gosod arwyddion i rybuddio modurwyr tra bod gwaith glanhau ac adfer y ffordd gyhoeddus [yn cael ei wneud].

"Yn amlwg, mae cost i'r trethdalwr i'r cyngor gynnal gwaith o'r fath, gan gynnwys gwaith gwaredu'r gwastraff, ac yn unol â'n trefniadau arferol, rydym yn gwneud ymdrechion i adennill arian tuag at y costau."