Sgiliau digidol disgyblion 'ar ei hôl hi'

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion yn defnyddio cyfrifiaduronFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae codi safonau iaith a mathemateg yn dal yn flaenoriaeth i ysgolion er gwaethaf gwelliannau dros y saith mlynedd diwethaf, yn ôl y prif arolygydd ysgolion.

Yn adroddiad blynyddol y corff arolygu Estyn, mae yna bryder hefyd nad yw sgiliau digidol ysgolion wedi gwella digon i adlewyrchu datblygiad technoleg dros yr un cyfnod.

Ond mae Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Cymru, Meilyr Rowlands, wedi croesawu datblygiad diwylliant o "hunan-wella" a chydweithio rhwng ysgolion.

Roedd saith o bob deg ysgol gynradd a hanner yr ysgolion uwchradd gafodd eu harolygu yn 2016-17 yn dda neu'n rhagorol, tra chafodd y gweddill eu dyfarnu'n ddigonol neu'n anfoddhaol - yn debyg i'r patrwm ers 2010.

Elfennau cryf a gwan

Edrych ar ôl lles disgyblion yw un o elfennau cryfaf y drefn addysg, tra bo safonau ac addysgu yn gymharol wannach, medd Estyn.

Dywedodd y Prif Arolygydd bod "llawer i ymfalchïo ynddo yn y system addysg yng Nghymru ac "mae yna lawer o gryfderau" mewn meithrinfeydd, ysgolion arbennig a cholegau addysg bellach.

Ond mae amrywiaeth safon y ddarpariaeth "yn parhau'n her" mewn sawl maes, meddai.

Mae adroddiad blynyddol 2016-17 yn edrych ar y cyfnod ers 2010 ac yn asesu'r cynnydd mewn meysydd polisi blaenllaw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ers 2013 mae yna fwy o bwyslais ar lythrennedd a rhifedd yn sgil canlyniadau siomedig ym mhrofion rhyngwladol PISA, ac fe sefydlwyd profion darllen a rhifedd cenedlaethol.

Ers hynny, medd Estyn, mae gwelliannau wedi bod yn y ffordd mae ysgolion yn hybu llythrennedd, ond mae safon ysgrifennu disgyblion yn wannach nag agweddau eraill.

Mae dysgu rhifedd wedi gwella hefyd ond "mewn rhyw draean o ysgolion cynradd a thair rhan o bump o ysgolion uwchradd, ceir diffygion yn y modd mae ysgolion yn cynllunio ar gyfer a sicrhau bod disgyblion yn cael digon o gyfleoedd i ddatblygu a defnyddio'u medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl yr adroddiad, mae cyfleoedd i ddatblygu sgiliau technoleg gwybodaeth "yn gyfyngedig mewn llawer o ysgolion uwchradd a thraean o ysgolion cynradd".

Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gyfforddus yn prosesu geiriau a chreu cyflwyniadau, mae eu sgiliau yn aml yn gyfyngedig.

Dim ond tua chwarter yr ysgolion sy'n gweithredu'r Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3-7 oed yn dda, a dydy tua thri chwarter o benaethiaid ddim yn llwyr ddeall egwyddorion dysgu plant mewn ffordd fwy anffurfiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn y blynyddoedd cynnar, mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn sicrhau bod disgyblion yn cael dechrau da wrth ddysgu siarad a gwrando yn Gymraeg.

Ond yn ôl yr adroddiad, mae yna wendidau yn y ffordd mae nifer o awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac mae penodi athrawon "yn her mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru".

Disgrifiad,

Mae angen mwy o gyfleoedd i ddisgyblion siarad Cymraeg tu allan i'r dosbarth medd Meilyr Rowlands

Mwy o gydweithio rhwng ysgolion yw un o'r newidiadau mwyaf i'r drefn yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl Meilyr Rowlands.

"Wrth edrych yn ôl dros y cylch saith mlynedd diwethaf o arolygiadau, bu symud tuag at fwy o gydweithio mewn addysg yng Nghymru," meddai.

"Mae'r ysbryd hwn o gydweithredu yn fwyaf amlwg yn y ffordd y mae'r cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu gyda'r proffesiwn addysgu a sut mae ysgolion eu hunain yn dechrau datblygu arferion addysgu a dysgu arloesol".

Ymateb gwleidyddol

Yn ôl llefarydd addysg Plaid Cymru Llyr Gruffyddd dyw symud at ddiwylliant o hunan-wellhad o fewn addysg Cymru ddim yn ddigon i godi safonau.

Dywedodd: "Oni bai bod y llywodraeth yn mynd i'r afael ar frys â'r materion sylfaenol o gyllidebau addysg sy'n lleihau a methiau i recriwtio a chadw athrawon, mae pawb yn gwybod mai achos o godi tŷ ar dywod yw'r diwylliant newydd yma."

Mae'r adroddiad yn adlewyrchu nifer o bryderon sydd eisoes wedi ymddangos mewn adroddiadau blynyddol blaenorol, yn ôl llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd Darren Millar: "Mae'n glir bod angen i ni wneud cynnydd llawer mwy cyflym i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg ansawdd uchel mae'n nhw'n eu haeddu."

Mewn ymateb fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams: "Cenhadaeth ein cenedl o ran addysg yw codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy'n destun hyder a balchder cenedlaethol.

"Mae'r adroddiad yn nodi ein hymdrechion i leihau'r bwlch cyrhaeddiad, ond rydyn ni'n gwybod na allwn ni laesu dwylo.

"Dyna pam ein bod yn dyblu'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf, fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial."