Cymru â'r cynnydd diweithdra mwyaf o wledydd y DU

  • Cyhoeddwyd
diweithdra

Mae ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos cynnydd yng nghanran y di-waith yng Nghymru.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod y cynnydd yn uwch yma nag yn unrhyw ardal drwy'r DU, fel cyfran o'r boblogaeth.

Rhwng Medi a Thachwedd y llynedd, roedd canran y bobl heb waith yng Nghymru yn 4.9% - cynnydd o 0.8%.

Roedd canran y rhai mewn gwaith yn 72.7% o'i gymharu â chanran o 75.3% drwy'r DU. 4.3% yw canran y di-waith ar draws y DU.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod pobl yng Nghymru yn gweithio mwy o oriau - cynnydd o hanner awr yr wythnos o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Erbyn hyn, mae 73,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru - cynnydd o 13,000 o'i gymharu â'r tri mis blaenorol, a 7,000 yn fwy nag oedd yn ddi-waith yr un cyfnod y llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran ONS bod y "darlun cyffredinol ar draws y DU, gyda rhywfaint o anwadalrwydd, yn dal i amlygu patrwm ar y cyfan o ganrannau diweithdra sy'n lefelu neu'n gostwng yn araf deg".

Dim ond tair rhanbarth arall welodd cynnydd mewn diweithdra - Gorllewin Canolbarth Lloegr, Llundain a Sir Efrog a'r Humber.

Ymateb gwleidyddol

Mewn ymateb i'r ffigyrau dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod canran y rhai mewn gwaith - 72.7% - 0.2% yn uwch na'r chwarter blaenorol a 0.3% yn uwch na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

"Rydym yn parhau'n ymroddgar i wneud popeth posib i godi lefelau cyflogaeth ar draws Cymru ac rydym heddiw wedi cyhoeddi cynllun newydd gwerth £2.5m sy'n cael cefnogaeth yr UE i helpu pobl ddi-waith oresgyn yr hyn sy'n eu rhwystro rhag cael gwaith."

Yn ôl llefarydd economi'r Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, mae'r ffigyrau yn rhai "pryderus" sy'n gadael Cymru gyda'r lefel GVA (Gross Value Added) isaf a'r cyflogau isaf yn y DU.

Dywedodd: "Mae'n bryd i weinidogion Llafur stopio clymu busnesau Cymru gyda biwrocratiaeth a rhoi'r gefnogaeth iddyn nhw dyfu a recriwtio, a fyddai'n dileu diweithdra ar un ergyd."