'Cadwch at apwyntiadau iechyd' wedi trafferthion
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion yn cael eu cynghori i gadw at eu hapwyntiadau meddyg fel arfer, er bod yna rybudd y gallen nhw wynebu oedi yn dilyn trafferthion gyda system gyfrifiadurol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Doedd ymgynghorwyr, staff ysbyty na meddygon teulu ddim yn gallu cael gafael ar ganlyniadau profion gwaed na Phelydr-X ddydd Mercher wedi i'r system fethu.
Mae cleifion wedi cael gwybod y dylen nhw fynd i'w hapwyntiadau os nad ydyn nhw wedi cael gwybod fel arall.
Dywedodd un meddyg teulu y byddai'n achosi mwy o drafferth i'r meddygfeydd petai cleifion yn ffonio o flaen llaw i siecio.
"Fy nealltwriaeth i yw bod y rhan fwyaf o apwyntiadau'n mynd yn eu blaen," meddai Rebecca Payne, cadeirydd Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru.
"Mae'n debygol y bydd yna waith wrth gefn i feddygon teulu ddelio ag e.
"Ond oni bai eich bod chi wedi cael gwybod fel arall, rwy'n awgrymu fod pobl yn mynd i'w hapwyntiadau, oherwydd, petai pawb yn ffonio i siecio, fe fyddai'n ormod o bwysau ar y system."
Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru eu bod yn deall fod y trafferthion wedi effeithio ar hanner gwasanaethau meddygon teulu.
'Anhrefn
Disgrifiodd un meddyg y sefyllfa fel anhrefn gan ychwanegu: "Alla i wneud dim. Dwi angen y system ar gyfer popeth."
Roedd y ffaith fod y system wedi methu hefyd yn golygu nad oedd staff yn gallu cael gafael ar rifau ffon er mwyn ffonio cleifion i ganslo apwyntiadau.
Dywedodd y Ganolfan Ddiogelwch Seibr Genedlaethol mai trafferthion technegol achosodd y problemau, ac nid ymododiad seibr.
Wnaeth y trafferthion ddim arwain at bryderon am ddiogelwch data, medd adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018