'Rhwystr' i bobl anabl mewn gwleidyddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Disabled accessFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrchwyr yn dweud fod rhwystrau gan gynnwys "agweddau stereoteip negyddol" ac adeiladau anaddas yn gwneud i bobl sydd ag anabledd beidio cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Amcangyfrifir bod 20% o'r boblogaeth gydag anabledd, ond honnir bod cynghorau Cymru ond yn ymwybodol o 1.5% o gynghorwyr sydd ag anabledd.

Dywed elusen Anabledd Cymru y dylai mwy fod yn cael ei wneud i gael gwared ar y 'rhwystrau' er mwyn gwella cynrychiolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi'u hymrwymo i sicrhau bod mwy o bobl anabl yn cael eu cynrychioli mewn bywyd cyhoeddus.

Mae Anabledd Cymru yn dweud bod tua 600,000 gydag anabledd, ond bach iawn yw nifer y cynghorau sydd â data ynglŷn â nifer y cynghorwyr sydd ag anabledd.

O'r 1,254 o gynghorwyr a gafodd eu hethol ym mis Mai, mae gwaith ymchwil y BBC yn dangos mai dim ond 19 sydd wedi eu cofnodi gan y cynghorau o fod gydag anabledd neu anghenion arbennig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anita Davies yn gynghorydd yng nghyngor cymuned Coety Uchaf

Dywed Anita Davies, sy'n ddall ac yn gynghorydd yng nghyngor cymuned Coety Uchaf yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, fod pobl yn aml â rhagfarn am ei gallu i wneud ei gwaith.

Mae'n dweud iddi fod mewn cyfarfodydd lle nad oedd pobl yn cyflwyno eu hunain na chwaith yn darllen cyhoeddiadau, neu anfon dogfennau yn y fformat cywir.

"Pan mae fy ffon gen i mae rhai pobl yn osgoi siarad â mi oherwydd nad ydynt yn gwybod beth i'w ddweud neu sut i gyflwyno eu hunain," meddai.

Dywedodd pan yng nghwmni etholwr mewn cyfarfod "bod rhai weithiau yn meddwl fy mod yn berthynas teuluol .... y peth olaf maent yn ystyried yw ei bod yn bosib fy mod i yn gynghorydd, oherwydd fy nghyflwr".

Mae'r AC Ceidwadol Mark Isherwood yn rhannol fyddar ac yn gadeirydd ar grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad ar anabledd.

Mae'n dweud ei fod ef ar bwrpas yn gwisgo offer clyw o faint sylweddol er mwyn i bobl allu gweld yr offer.

"Pan ddechreuodd fy nghlyw waethygu, y fi oedd yr olaf i gydnabod y peth. Mae gennyf ychydig o brofiad o bobl yn credu fy mod yn dwp," meddai.

"Nawr rwy'n gwisgo cyfarpar er mwyn gwneud sylw neu ddatganiad, sef fy mod yn fyddar ond yn falch."

'Cyfoethogi cymwysterau'

Dywed Anabledd Cymru fod hi'n anodd i bobl gael mynediad i ddemocratiaeth oherwydd bod cyfarfodydd yn aml mewn adeiladau heb rampiau a heb adnoddau neu gyfarpar ar gyfer pobl sy'n drwm eu clyw.

"Yn aml mae pobl yn meddwl nad ydym yn addas ar gyfer y swydd oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd," meddai llefarydd ar ran yr elusen.

"Mewn gwirionedd mae'r profiadau hyn yn cyfoethogi ein cymwysterau ar gyfer bywyd cyhoeddus, sef cydymdeimlad, datrys problemau a'r gallu i fod yn wrthrychol."

Mae ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddf newydd sy'n cyfrannu at gostau pobl anabl sy'n ymgeisio mewn etholiad. Mae deddf o'r fath eisoes yn bodoli yn Yr Alban.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried cronfa debyg yng Nghymru er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth ymhlith aelodau etholedig.