'Angen darparu dŵr yfed mewn llefydd cyhoeddus'
- Cyhoeddwyd

Mae'n ymddangos fod busnesau bach yng Nghymru yn dwysáu eu hymdrechion i ostwng gwastraff plastig a mae rhai yn credu bod yr ymdrechion yn hwb i'w busnes.
Mae mân-werthwyr yn dweud fod yna newid wedi bod mewn agweddau a bod yna fwy o ymdrechion bellach i sicrhau bod mwy o blastig yn cael ei ailgylchu.
Un awgrym yw y dylai mwy o fannau cyhoeddus ddarparu dŵr yfed i lenwi poteli fel ffordd o leihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried nifer o opsiynau ynglŷn a chael dŵr yfed mewn llefydd cyhoeddus.
Newid arferion
Dywedodd un gwerthwr ffrwythau a llysiau o'r Bont-faen wrth y BBC ei fod yn gwerthu ei gynnyrch yn rhydd a bod pobl yn sylwi ar hynny.
Yn ôl perchnogion un siop cynnyrch llaeth yng Nghaerdydd, maen nhw wedi sylwi ar gynnydd yn nifer y bobl sy'n gofyn am gael eu llaeth mewn poteli gwydr.
Ychwanegodd un perchennog siop flodau ym Mhort Talbot ei bod hi bellach yn pacio'r blodau mewn papur brown a bod pobl yn eitha' hoffi'r "olwg naturiol".
Ar hyn o bryd Cymru, ar gyfartaledd, yw'r wlad sy'n ailgylchu y mwyaf o ddeunydd yn y DU ac mae codi 5c am fag wedi helpu at hynny.
Ond mae ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy.
Mae 725,000 potel blastig yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob dydd ac mae Ailgylchu dros Gymru yn amcangyfrif mai dim ond 50% o'r rhain sy'n cael eu hailgylchu. Mae'r gweddill naill ai'n sbwriel neu'n llenwi safle tirlenwi.

Mae 725,000 potel blastig yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob dydd ac amcangyfrifir mai dim ond 50% ohonynt y gellir eu hailgylchu
Yn ôl y Gymdeithas Cadwraeth Forol mae galw am system gwaredu poteli yng Nghymru ac mae'n galw ar y llywodraeth i fwrw ymlaen â'r cynllun.
O dan cynllun o'r fath byddai cwsmeriaid yn talu ychydig yn fwy wrth brynu un potel o ddiod ond bydden nhw'n cael yr arian yn ôl wrth fynd â'r botel wag yn ôl i'r siop.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn cynnal astudiaeth i gynllun o'r fath ac y bydd adroddiad ar yr astudiaeth yn cael ei gyhoeddi eleni.
'Angen defnyddio ffynhonnau cyhoeddus'
Yn ôl Gill Bell o'r Gymdeithas Cadwraeth Forol dylai Llywodraeth Cymru annog pobl i ddefnyddio ffynhonnau cyhoeddus er mwyn atal gwastraff.
"Mae angen annog gwsanaethau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai i gael llefydd lle mae modd llenwi poteli â dŵr."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn ystyried nifer o opsiynau ynglŷn a chael dŵr yfed mewn llefydd cyhoeddus.
Erbyn 2021 mae disgwyl y bydd siopau, caffis a busnesau mewn trefi mawr yn Lloegr yn darparu mannau ail-lenwi dŵr.
Ar hyn o bryd mae Dŵr Cymru yn ystyried a fyddai cynllun o'r fath yn gallu gweithio yng Nghymru.
Mae'r cwmni eisoes yn darparu gwasanaeth dŵr yfed mewn nifer o ddigwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Yng Nghaerdydd mae'r cyngor yn ystyried y posiblrwydd o ailgyflwyno ffynhonnau mewn rhannau o'r ddinas.
Yn y cyfamser mae busnesau bach hefyd yn parhau i wneud newidiadau er mwyn gostwng effaith niweidiol plastig.