Argymell pleidlais i bobl 16 ac 17 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
blwch pleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai pobl 16 ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio yng Nghymru yn y dyfodol agos petai cynlluniau i ddiwygio etholiadau yn dod i rym.

Mae Llywodraeth Cymru am ostwng yr oedran pleidleisio er mwyn caniatáu pobl ifanc i fwrw eu pleidlais mewn etholiadau lleol.

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet Alun Davies wedi dweud hefyd y bydd y newidiadau yn rhoi pleidlais i ddinasyddion tramor ond sy'n "byw yn gyfreithlon yng Nghymru".

Mewn cyfweliad â rhaglen Sunday Politics y BBC dywedodd Mr Davies: "Rwy'n credu y dylai pawb sy'n talu trethi gael yr hawl i bleidleisio."

Petai'r Cynulliad yn cymeradwyo'r cynlluniau mi fyddai hawl gan bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn yr etholiadau cyngor nesaf yn 2022.

Dilyn patrwm yr Alban

Byddai Cymru felly yn dilyn patrwm yr Alban lle mae'r oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol eisoes wedi gostwng - a ble chafodd pobl ifanc 16 oed bleidleisio yn y refferendwm ar annibyniaeth yn 2014.

Mae pwerau newydd fydd yn cael eu datganoli yn Ebrill yn rhoi'r hawl i'r Cynulliad ostwng yr oed pleidleisio a gwneud newidiadau i'r system bleidleisio.

Fyddai'r newidiadau ddim yn gymwys ar gyfer etholiadau cyffredinol gan mai Llywodraeth y DU yn San Steffan sy'n eu rheoli nhw, nac ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies bod y symudiad yn rhan o gyfres o newidiadau sy'n cael eu hargymell gan Lywodraeth Cymru.

Byddai'r cynlluniau hefyd yn rhoi'r hawl i ddinasyddion o wledydd eraill "sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru" i bleidleisio mewn etholiadau lleol.

Disgrifiad,

Alun Davies: Pleidlais i bobl 16 oed a diansyddion tramor

Dywedodd Mr Davies: "Dwi am i bobl ifanc fod yn rhan o'r broses ddemocrataidd.

"Dwi hefyd am i bobl sy'n talu treth y cyngor ac na sy'n ddinasyddion o'r DU i gael yr hawl i bleidleisio.

"Ni ddim yn edrych ar yr UE yn unig ond pobl ar draws y byd - os ydynt yn byw ac yn talu eu trethi yng Nghymru mae angen iddynt fod yn rhan o'r broses ddemocrataidd."

'Mwy o ddiddordeb'

Mi fyddai newidiadau i'r system etholiadol hefyd yn treialu gorsafoedd pleidleisio symudol er mwyn i bobl allu pleidleisio mewn llefydd fel archfarchnadoedd a llyfrgelloedd.

Mae'n fwriad yn ogystal i dreialu systemau pleidleisio a chyfrif electronig.

Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol - sy'n ymgyrchu i newid y system - yn argymell y DU i ostwng oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau.

"Mae gan y genhedlaeth sy'n gadael yr ysgol nawr fwy o wybodaeth am wleidyddiaeth," meddai prif weithredwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, Darren Hughes.

"Anghyfiawnder cyfansoddiadol fyddai peidio â rhoi pleidlais i bobl 16 ac 17 oed yn Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn etholiadau, ac anghydraddoldeb gwleidyddol yw'r ffaith nad yw pobl 16 ac 17 oed yn yr Alban a Chymru yn cael pleidleisio yn etholiadau San Steffan."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ifanc 16 oed eisoes yn cael pleidleisio mewn rhai etholiadau yn yr Alban

Mewn ymateb dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth Leol, Janet Finch-Saunders: "Ry'n am i Gymru arwain y ffordd i greu system wleidyddol sy'n gweithio i bawb.

"Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pwerau newydd i gryfhau cysylltiadau rhwng etholwyr ac etholaethau.

"Mae'r hyn sy'n cael ei argymell yn newidiadau sylweddol ac yn cynnwys cofrestru etholwr yn awtomatig ac mi allai hynny wneud twyll etholiadol yn fwy tebygol.

"Rhaid i ni sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau yn annog pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth - dy'n ni ddim am eu gorfodi i wneud hynny."

Mae Sunday Politics Wales ar BBC One Wales ddydd Sul am 11:00.