AS yn mynnu ymddiheuriad am neges 'sarhaus' grŵp LGBT

  • Cyhoeddwyd
David TC DaviesFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin

Mae David Davies wedi mynnu ymddiheuriad gan grŵp LGBT Ceidwadol wnaeth drydar yn beirniadu barn yr AS ar hawliau pobl drawsryweddol.

Ers hynny mae'r grŵp wedi cyfaddef fod y neges, oedd yn disgrifio barn Mr Davies fel un "ffiaidd", o bosib wedi pechu.

Yn ymateb, dywedodd bod yr iaith gafodd ei ddefnyddio yn "warthus", a galwodd am ymchwiliad.

Dywedodd Mr Davies y byddai'n gwneud cwyn i gadeirydd y Blaid Geidwadol, Brandon Lewis, am y mater ddydd Llun.

'Sarhaus'

Mae Mr Davies yn feirniadol o hawliau i bobl drawsryweddol, ac roedd wedi ymuno mewn trafodaeth ar Twitter ynglŷn â gwaharddiad i aelod o'r Blaid Lafur am gyhoeddi neges oedd yn dweud: "Mae merched trawsryweddol yn ddynion."

Roedd Mr Davies wedi dweud: "Dyw rhywun sydd â phidyn a cheilliau yn bendant ddim yn fenyw. Dylai hyn fod yn ffaith fiolegol, nid testun dadl wleidyddol."

Fe wnaeth grŵp Ceidwadwyr LGBT+ ymateb trwy ddweud: "Mae barn trawsffobig David Davies yn ffiaidd ac nid yw'n cyd-fynd â pholisi'r Blaid Geidwadol."

Roedd y neges hefyd yn cynnwys ymadrodd oedd yn cyfleu term anghynnes yn erbyn Mr Davies.

Wrth ymateb dywedodd yr AS fod y rheg oedd yn cael ei gyfleu yn un "sarhaus a gwrth-fenywod".

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cyfrif Twitter Ceidwadwyr LGBT+ y byddan nhw'n cadw at safonau uwch yn y dyfodol

Yn hwyrach fe wnaeth y cyfrif Ceidwadwyr LGBT+ drydar yn dweud bod eu neges i fod yn un ysgafn, ac y gallai fod wedi pechu rhai pobl.

Ychwanegon nhw nad dyna eu bwriad, ac y byddan nhw'n cadw at safonau uwch yn y dyfodol.

Yn siarad â BBC Cymru ddydd Llun, dywedodd Mr Davies: "Rydw i eisiau ymddiheuriad. Rydw i eisiau rhoi stop ar hyn.

"Dydw i ddim yn meddwl bod hyn yn dderbyniol. Mae'n fater disgyblu.

"Mae'n achos ble mae rhai pobl o fewn y Blaid Geidwadol yn anghytuno am rai agweddau o'n polisi, ond does ganddyn nhw ddim hawl i fy sarhau yn y modd hwnnw."

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried cynlluniau ar hyn o bryd i wneud y broses gyfreithiol o newid rhyw yn haws.

Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am sylw gan y Ceidwadwyr.