Achos Finsbury Park: Diffynnydd yn gwadu gyrru fan

  • Cyhoeddwyd
Darren Osborne

Mae dyn o Gaerdydd sydd wedi ei gyhuddo o ymosod ar Fwslimiaid ger mosg yn Llundain wedi gwadu bod wrth lyw'r fan a yrrodd i ganol torf o addolwyr.

Wrth ddechrau rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Woolwich, dywedodd Darren Osborne mai dyn o'r enw Dave oedd yn gyrru'r fan, a bod y ddau wedi cwrdd mewn tŷ tafarn yn ardal Pontypridd.

Bu farw un person, Makram Ali, 51, yn yr ymosodiad ar 19 Mehefin 2017 ac fe gafodd naw arall eu hanafu wrth iddyn nhw adael y mosg yn Finsbury Park.

Mae Mr Osborne, 48, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddio a cheisio llofruddio.

"Na" oedd ei ateb pan ofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyn Lisa Wilding QC wrtho: "Ai chi oedd gyrrwr y fan?"

Pan ofynnwyd wedyn a oedd yn gwybod pwy oedd y gyrrwr, fe atebodd: "Dyn o'r enw Dave."

Dywedodd nad yw'n gwybod beth yw cyfenw Dave ond ei fod yn ei nabod, a bod y ddau wedi cwrdd yn nhŷ tafarn The Pick and Shovel yn Nhrefforest fis Mawrth neu Ebrill y llynedd.

'Targed' yn Rochdale

Clywodd y llys ei fod hefyd wedi cwrdd â dyn o'r enw Terry Jones, a bod y tri ohonyn nhw'n trafod materion cymdeithasol a gwleidyddol.

Dywedodd Mr Osborne bod y tri wedi bwriadu mynd i Rochdale yn wreiddiol, ac mai eu "targed" oedd gwleidydd Llafur lleol a oedd, meddai, wedi cefnogi unigolyn oedd ynghlwm ag achos o gamdrin merched.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau medd yr heddlu sy'n dangos Darren Osborne yng nghefn fan heddlu ar ôl cael ei arestio

Wnaethon nhw ddim fynd ati i wireddu'r cynllun, meddai, "yn anffodus".

Fe glywodd y llys yn gynharach bod y diffynnydd wedi dweud wrth yr heddlu y diwrnod y cafodd ei arestio ei fod wedi gweithredu ar ben ei hun.

Fe welodd y rheithgor luniau o'r diffynnydd yng nghefn fan heddlu oedd wedi eu tynnu ar gamera roedd un o'r plismyn yn ei wisgo.

Gofynnodd cwnstabl wrtho: "Ai chi oedd yn gyrru?"

Atebodd Mr Osborne: "Ie."

Cyfweliad diogelwch

Mae'r llys eisoes wedi clywed gan dyst a ddywedodd ei fod yn "sicr" mai'r dyn oedd wrth lyw'r fan oedd y dyn gafodd ei arestio gan yr heddlu.

Fe glywodd y llys drawsgrifiad o "gyfweliad diogelwch brys" rhwng ditectif a'r diffynnydd pan roedd yn yr ysbyty.

Gofynnodd y ditectif: "Oes unrhyw un arall yn ymwneud â hyn?"

Atebodd Mr Osborne: "Na."

Yna fe ofynnodd: "Ydych chi'n gwybod am unrhyw beth o gwbl allai niweidio rhywun?"

Atebodd Mr Osborne: "Na, dwi ar ben fy hun."

Mae'r achos yn parhau.