Carchar i lyfrgellydd am ddwyn llyfrau i'w gwerthu
- Cyhoeddwyd
Mae llyfrgellydd o Rondda Cynon Taf wnaeth ddwyn llyfrau o'i gweithle ac yna ceisio'u gwerthu ar-lein wedi cael ei charcharu am wyth mis.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Elizabeth Macregor, 57, geisio llosgi rhai o'r llyfrau er mwyn osgoi cael ei dal.
Cafodd Macregor, o Hirwaun, ei chanfod yn euog o ddau gyhuddiad o ddwyn ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Roedd staff eraill yn Llyfrgell Pontypridd wedi sylwi fod llyfrau yn dechrau mynd ar goll, ac fe wnaethon nhw amau mai Macregor oedd yn gyfrifol.
'Celwyddau chwerthinllyd'
Fe wnaeth ymchwiliad heddlu ganfod fod rhai o'r llyfrau oedd ar goll ar werth ar ei chyfrif eBay - gan gynnwys un ar adroddiad y tribiwnlys i drychineb Aberfan.
£400 oedd y pris yr oedd hi yn gofyn amdano.
Pan wnaeth swyddogion chwilio'i thŷ fe wnaethon nhw ganfod cannoedd o lyfrau - rhai wedi'u difrodi gan dân wedi i Macregor geisio'u llosgi, ac eraill yn ei bin ailgylchu.
Roedd hi'n honni iddi eu prynu o lyfrgelloedd eraill oedd wedi gwerthu llyfrau pan oedd ganddyn nhw ormodedd.
Dywedodd y barnwr Richard Twomlow fod Macregor wedi dweud "cyfres o gelwyddau chwerthinllyd" wrth y rheithgor yn ystod yr achos.
Yn amddiffyn, dywedodd Katherine Lane fod Macregor yn "berson unig" oedd wedi dioddef o nifer o broblemau iechyd corfforol a meddyliol.
Ers cael ei diswyddo o'r gwasanaeth llyfrgelloedd roedd Macregor wedi canfod swydd newydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, meddai.
Wrth ei dedfrydu, dywedodd y Barnwr Twomlow ei bod wedi dwyn gan ei chyflogwr mewn ffordd "graff a gofalus".
Dywedodd fod y llyfr ynglŷn ag Aberfan yn "fwy o werth yn ddiwylliannol a hanesyddol nac yn ariannol", ac yn "ffodus" cafodd ei ddychwelyd heb ei ddifrodi.
Dywedodd Richard Killick o Wasanaeth Erlyn y Goron fod Macregor wedi "twyllo ei chyflogwr a'r gymuned roedd hi'n ei gwasanaethu".