Bandiau ysgolion Cymru'n dangos rhagor o welliant
- Cyhoeddwyd
Mae gwelliant wedi bod ym mherfformiad ysgolion Cymru yn ôl y bandiau ysgolion blynyddol.
Mae pob ysgol wedi cael ei gosod mewn un o bedwar categori yn ôl perfformiad - gwyrdd, melyn, oren neu goch.
Mae dau draean o ysgolion uwchradd a dros 85% o ysgolion cynradd un ai'n wyrdd neu'n felyn, ond mae mwy wedi disgyn i'r categori coch o'i gymharu â'r llynedd hefyd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg bod y ffigyrau'n "parhau'r duedd rydyn ni wedi bod yn ei gweld dros y blynyddoedd diwethaf".
Perfformiad ysgolion
Mae'r system wedi cael ei newid ychydig eleni i ganolbwyntio ar fwy o ffactorau na chanlyniadau arholiadau'n unig.
Mae'r bandiau nawr yn cymryd golwg ehangach ar sut mae ysgolion yn perfformio, gan ystyried materion fel safon addysgu.
Dywedodd Kirsty Williams bod y newidiadau i'r system wedi dod o ganlyniad i gyngor gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
"Yn ogystal ag ystyried amrywiaeth lawer ehangach o ffactorau am allu ysgol i wella, mae'r categorïau nawr yn rhoi mwy o bwyslais ar drafodaethau am sut y gallai'r ysgol wella - gan arwain at raglen o gymorth, her ac ymyriadau sydd wedi'u teilwra'n benodol i'r ysgol honno," meddai.
"Dwi'n hyderus bod y newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud i'r broses gategoreiddio o fudd i'r disgyblion ac y byddan nhw'n help i sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn."
Mae'r ffigyrau'n dangos bod:
85.3% o ysgolion cynradd a 68.3% o ysgolion uwchradd yn y categorïau gwyrdd a melyn;
Cynnydd bychan wedi bod yn nifer yr ysgolion yn y categori coch - 0.4% i ysgolion cynradd a 2.9% i rai uwchradd;
45% o ysgolion arbenigol yn y categori gwyrdd, gyda dim un yn goch.
'Pinsiad o halen'
Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Darren Millar, y dylid darllen y canlyniadau gyda "phinsiad o halen".
"Roedd adroddiad diweddaraf Estyn yn dangos bod perfformiad ysgolion yn aros yn ei unfan, a chanlyniadau TGAU haf 2017 oedd y gwaethaf mewn degawd," meddai.
"Mae hynny felly yn groes i'r argraff sy'n cael ei roi gan y canlyniadau heddiw.
"Mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi newid y system sgorio eleni, a byddai nifer o'r ysgolion sydd yn y categori gwyrdd ddim yno pe bai'r categorïau wedi bod yn gyson gyda system y llynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2017