Darganfod anifeiliaid anwes mewn tŷ llawn ysgarthion

  • Cyhoeddwyd
eiddo sbwrielFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ystafelloedd yn yr eiddo yn llawn sbwriel a photeli o ysgarthion

Mae cwpl wedi cael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd ar ôl i'r awdurdodau ddarganfod cŵn a chathod mewn cartref oedd wedi'i lygru gydag ysgarthion.

Fe gyfaddefodd Robert Roy Rickman, 45, a Ceri Ann Rickman, 32, o Lansawel, Castell-nedd Port Talbot, i gyhuddiadau o amddifadu'r anifeiliaid, sy'n cynnwys 15 cath a dau gi.

Dywedodd un o arolygwyr yr RSPCA ei fod mewn "sioc" ​​ac wedi "torri ei galon" wrth ddarganfod yr anifeiliaid anwes.

Clywodd Llys Ynadon Abertawe fod yr amodau byw'n "ofnadwy".

Ffynhonnell y llun, RSPCA

Cafodd gwastraff dynol ac anifeilaidd ei ddarganfod ar draws yr eiddo. Roedd wrin mewn poteli plastig, sbwriel ar draws yr ystafelloedd ac arogl drwg drwy'r adeilad.

Fe gyfaddefodd y diffynyddion i achosi dioddefaint diangen i 15 o gathod domestig, a methu â chymryd camau rhesymol i ofalu am anghenion dau gi.

Fe gafodd y ddau waharddiad o 10 mlynedd yr un rhag cadw anifeiliaid, yn ogystal â dirwy o £300 yr un, a thâl dioddefwr o £85.

Dywedodd yr RSPCA fod yr holl anifeiliaid anwes wedi cael eu hailgartrefu.

Ffynhonnell y llun, RSPCA
Ffynhonnell y llun, RSPCA
Ffynhonnell y llun, RSPCA