Cau ysgol Saesneg oherwydd twf mewn addysg Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn erbyn cau ysgol Saesneg ger Wrecsam yn honni ei bod hi dan fygythiad, gan fod plant wedi cael eu gwthio tuag at addysg Gymraeg a hynny ar draul addysg Saesneg.
Mae Ysgol Pontfadog yn un o dair ysgol Ffederasiwn Dyffryn Ceiriog sy'n destun ymgynghoriad gan Gyngor Sir Wrecsam ar hyn o bryd.
Ysgol cyfrwng Saesneg ydi Pontfadog, gyda 18 o blant ynddi fis Ionawr y llynedd, ond oherwydd llefydd gwag mae dyfodol yr ysgol yn y fantol.
Yn ôl Cyngor Wrecsam mae'r galw am addysg cyfrwng Saesneg ar i lawr yn yr ardal.
Mae'r cyngor yn ymgynghori ar dri opsiwn, sy'n cynnwys:
Dim newid - a chadw'r tair ysgol,
Troi Ysgol Cynddelw yn ysgol Gymraeg drwy gau'r ffrwd Saesneg ac anfon y plant sydd isio addysg Saesneg i Bontfadog,
Cau Ysgol Pontfadog ac anfon y disgyblion oddi yno i'r ffrwd Saesneg yn Ysgol Cynddelw.
Y Gymraeg ar draul y Saesneg?
Mae rhai o gefnogwyr Pontfadog hefyd yn honni bod y galw am addysg Gymraeg wedi cael ei hyrwyddo ar draul addysg Saesneg.
Dywedodd Jules Payne, sy'n un o'r ymgyrchwyr dros Ysgol Pontfadog: "Mae arnom angen ysgol cyfrwng Saesneg yn y dyffryn hwn.
"Rydym yn ymladd yn erbyn y galw cynyddol am addysg trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd bod nifer isel yn mynd am y ffrwd cyfrwng Saesneg yma.
"Mae ymdrechion mawr wedi bod i sianelu plant i'r ffrwd Gymraeg.
"Mae anghydraddoldeb wedi bod wrth i'r ddwy ffrwd gystadlu, ac mae'r llif fwydo i'r ffrwd Gymraeg yn gryfach, yn rhannol drwy fudiadau fel Ti a Fi a'r Cylch."
Rhan fwyaf yn Ddi-Gymraeg
Ond mae Richard Jones, sy'n daid i bedwar o ddisgyblion Ysgol Cynddelw yn meddwl y dylid "gwneud Ysgol Cynddelw yn ysgol ffrwd Gymraeg [yn hytrach na'n ysgol ddwyieithog], ac ystyried symud y plant ffrwd Saesneg i Ysgol Pontfadog, ac felly yn cryfhau'r sefyllfa yn yr ysgol honno.
"Nid yw hyn yn cael ei yrru o'r top. Mae'r pennaeth a'r staff yn gweithio'n galed iawn yma.
"Mae hyn wedi dod gan y rhieni. Mae rhieni'r rhan fwyaf o'r plant yma yn Ddi-Gymraeg, a'u penderfyniad nhw ydi hyn."
Ond petai ysgol Pontfadog yn aros ar agor, mi allai hynny olygu cau'r ffrwd Saesneg yn Ysgol Cynddelw.
Mae Llywodraethwyr Ffederasiwn Dyffryn Ceiriog yn dweud na allan nhw wneud sylw ar hyn o bryd - dim ond annog pobl i gyfrannu i'r ymgynghoriad.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Addysg, ar ran Cyngor Wrecsam: "Hoffem annog unrhyw un sydd ag unrhyw farn ar y cynigion ar gyfer Ffederasiwn Dyffryn Ceiriog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sy'n dod i ben ar Chwefror 21."